Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Diogelwch Bwyd

Published: 16/06/2014

Ydych chi’n cofio seremoni agoriadol gemau Olympaidd Llundain 2012 a’r stadiwm yn llawn dop o wylwyr? Nawr dychmygwch gêm rygbi Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Stadiwm y Mileniwm yn llawn i’r ymylon a’i luosi â thri. Mae hynny’n tua chwarter miliwn o bobl. Dyna faint o bobl yn y DU a allai gael eu taro gan campylobacter eleni. Bydd y frwydr yn erbyn Campylobacter yn ganolbwynt i’r Wythnos Diogelwch Bwyd eleni (16-22 Mehefin). Campylobacter yw’r prif facteria sy’n achosi gwenwyn bwyd yn y DU. Ni allwch ei weld, ei arogli nac hyd yn oed ei flasu yn y bwyd, ond mae’n effeithio arnoch, byddwch yn ei gofio. Ar ei waethaf, gall eich lladd. Mae’r Gymdeithas Diogelwch Bwyd yn arwain ymgyrch i ddod â’r gadwyn fwyd gyfan at ei gilydd i fynd i’r afael â’r broblem. Gofynnir i ffermwyr a chynhyrchwyr weithio’n galetach i ostwng cyfanswm y bacteria a geir yn eu dofednod amrwd. Bydd modd i ddefnyddwyr weld y data diweddaraf a beirniadu unrhyw gynnydd, neu ddiffyg cynnydd, a wneir. Bydd awdurdodau lleol, y prif archfarchnadoedd a phartneriaid allweddol yn cydweithio i sicrhau fod pobl yn gwybod sut i fod yn ddiogel. Mae cyngor ar gael ar www.food.gov.uk/chicken. Meddai Nina Purcell, Cyfarwyddwr Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru: “Mae hon yn broblem ddifrifol ac rydym yn galw ar y diwydiant cyfan i gydweithredu er mwyn mynd i’r afael â Campylobacter. Gall trigolion Sir y Fflint chwarae rhan drwy gymryd gofal ychwanegol wrth drin a pharatoi cyw iâr – peidiwch â golchi cyw iâr amrwd, dylech ei goginio’n iawn a’i fwynhau’n ddiogel.” Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o Gabinet Cyngor Sir y Fflint dros y Strategaeth Wastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: “Mae’n bwysig ein bod yn gwneud ein rhan i sicrhau fod pobl yn gwybod sut i drin a choginio bwyd yn ddiogel eu hunain ac i’w teuluoedd. Rydym yn falch o helpu i gadw pobl Sir y Fflint yn ddiogel ac yn iach drwy fod yn rhan o’r ymgyrch hon i ledaenu’r gair – ac nid y germau.” Nodyn i olygyddion · Mae gwenwyn Campylobacter fel arfer yn datblygu ychydig ddyddiau ar ôl bwyta bwyd sydd wedi’i lygru ac mae’n arwain at symptomau megis poen yn y bol, dolur rhydd difrifol ac, ambell waith, chwydu. Gall bara rhwng 2 a 10 diwrnod a gall fod yn arbennig o ddifrifol ymysg plant bach a phobl hyn. Mewn rhan achosion, gall effeithio arnoch am byth – gall sbarduno syndrom coluddyn llidus (IBS), arthritis adweithiol ac mewn achosion prin, syndrom Guillain-Barré – sef anhwylder difrifol sy’n gallu bod yn barhaol ac sy’n effeithio ar y system nerfau. · Mae tua pedwar a bob pump achos o wenwyn campylobacter yn y DU yn tarddu o ddodfednod wedi’u llygru. Un o’r prif ffyrdd o ddal a lledaenu gwenwyn campylobacter yw drwy gyffwrdd â chyw iâr amrwd. Mae’r Gymdeithas Diogelwch Bwyd yn eich cynghori i beidio â golchi cyw iâr amrwd. Gall germau ledaenu ar hyd wynebau’ch cegin, dillad ac offer. Am fwy o wybodaeth gweler www.food.gov.uk/actnow Am gyngor ar sut i drin dofednod yn ddiogel gweler www.food.gov.uk/chicken