Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae’n swyddogol! Mae Cyngor Sir Y Fflint yn “Better Connected” am y drydedd waith

Published: 15/06/2016

Mae gwefan Cyngor Sir y Fflint wedi cael ei gydnabod tair gwaith yng Ngwobrau cenedlaethol ‘Better Connected’. Yn ogystal â chael gwobr ‘Awdurdod Unedol gorau yng Nghymru’ a ‘Sbwriel ac Ailgylchu – Adrodd ar Gasgliad a fethwyd’, mae’r wefan hefyd wedi cael statws 4 seren. Better Connected yw asesiad annibynnol o dros 400 o wefannau cyngor a gyflawnir yn flynyddol gan y Gymdeithas Rheoli TG (SOCITM). Ei brif bwrpas yw adnabod arferion gorau a chynorthwyo cynghorau i wella ansawdd profiad ar-lein i filiynau o bobl sy’n ymweld â gwefannau cyngor i gael gwybodaeth a gwasanaethau. Dyfernir statws seren 1 – 4 ar sail meini prawf sy’n cynnwys; taith y defnyddiwr yn erbyn tasgau penodol, hygyrchedd, symudedd, defnyddioldeb ac ansawdd y cynnwys. Am y tro cyntaf erioed, dyfarnwyd gwefan Sir y Fflint â 4 seren, yr unig wefan yng Nghymru o 44 gwefan ledled y DU sydd wedi cyflawni’r safon hwn. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Mae hyn yn newyddion ardderchog. Mae hyn yn dangos llwyddiannau mawr a chydnabod gwaith y timau TG a Gwasanaeth Cwsmeriaid y Cynghorau sy’n gweithio’n agos gyda’i gilydd i wella dyluniad y gwefannau, ansawdd eu gwybodaeth ac ystod o wasanaethau ar-lein y maen ei gynnig. Or chwith: Jason Snead, Jake Selvester, Matthew Small, Cllr Peter Curtis, Mandy Humphreys, Colin Everett, Alan Holden, Gareth Owens