Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cabinet yn ystyried cynnydd blynyddol y Cyngor

Published: 22/06/2016

Bydd cynnydd y Cyngor i gyflawni’r dangosyddion cenedlaethol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn cael eu trafod gan y Cabinet ddydd Mawrth (21 Mehefin). Bydd aelodau’r Cabinet yn derbyn ail adroddiad ym mis Gorffennaf yn amlinellu perfformiad y Cyngor yn erbyn yr ymrwymiadau blaenoriaeth a osodwyd yn y Cynllun Gwella 2015/16 y llynedd. Mae perfformiad da wedi’i nodi mewn sawl maes lle bo tueddiadau wedi gwella ar targed wedi’i ddiwallu neu ei ragori, gan gynnwys: Anheddau sector preifat gwag a gafodd eu hailddefnyddio Sefydliadau bwyd sy’n cydymffurfio â’r safonau hylendid bwyd Disgyblion sy’n gadael addysg, hyfforddiant neu ddysgu yn y gweithle gyda chymhwyster cymeradwy Ffyrdd mewn cyflwr da yn gyffredinol Achosion tipio anghyfreithlon a gliriwyd o fewn 5 diwrnod Gwastraff trefol sy’n cael ei anfon i dirlenwi Cynnydd yn y defnydd o ganolfannau hamdden Mwy o bobl hyn yn cael cymorth i fyw gartref Atgyfeiriadau oedolion lle y rheolwyd y risg (100%) Pobl 65+ oed sy’n cael eu cefnogi mewn cartrefi gofal Asesiadau gofalwyr ifanc (100%) Pobl ifanc a fu’n derbyn gofal yn flaenorol (i) mewn cyswllt â’r awdurdod lleol (100%) (ii) mewn llety addas Plant â chynlluniau llwybrau ar waith (100%) Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Drwy ein Cynllun Gwella, rydym yn blaenoriaethu ardaloedd a gwasanaethau sy’n bwysig i’n cymuned. Mae’n cael ei fonitro drwy gydol y flwyddyn i asesu a ydym am gyflawni ein targedau. Er gwaethaf yr heriau ariannol nas gwelwyd o’r blaen, mae’r Cyngor yn parhau i fod yn sefydliad sy’n perfformio’n dda, ac rwy’n falch fod gennym lawer o lwyddiannau i fod yn falch iawn ohonynt. Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor: “Maer perfformiad da cyson hwn wedii gydnabod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a ddywedodd: “Mae perfformiad y Cyngor hwn, o gymharu â chynghorau eraill yng Nghymru, wedi gwella’n sylweddol”. Mae’r Cyngor yn parhau i berfformio’n gryf yn erbyn ein blaenoriaethau, yn enwedig o ran addysg, yr economi leol a thai.”