Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Swyddog Sir y Fflint yn ennill gwobr arweinyddiaeth

Published: 23/06/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint yn dathlu ar ôl i un oi swyddogion ennill gwobr arweinyddiaeth fawreddog. Mae Rhian Evans, Rheolwr Tîm Gwasanaethau Iechyd Meddwl, wedi ei chydnabod am arddangos arweinyddiaeth ragorol trwy ennill y wobr Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus, a noddwyd gan Academi Cymru yng Ngwobrau Arwain Cymru eleni, ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Cafodd Rhian ei henwebu gan San Leonard o Gwmnïau Cymdeithasol Cymru a ddywedodd: “Mae Rhian yn arwain tîm o fewn gwasanaethau cymdeithasol sy’n cefnogi pobl yn Sir y Fflint sy’n rheoli problemau iechyd meddwl. Yn 2011, cafodd Rhian ei hysbrydoli gan geisiadau defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu un gwasanaeth iechyd meddwl i bontio i Gwmni Cymdeithasol annibynnol a allai ddarparu cyflogaeth i bobl reoli problemau iechyd meddwl, ac eto cadw perthynas âr awdurdod lleol. Roedd ganddi weledigaeth glir or hyn yr oedd yn bwriadu ei gyflawni, ond roedd yn gwybod na allai ei gyflawni ei hun ac roedd angen mynd ag eraill ar y daith gyda hi. Cafodd Rhian ei chanmol gan y beirniaid am fod yn esiampl anhygoel o dalent ac arweinyddiaeth sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol i economi Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae Rhian wedi arwain menter arloesol sydd wedi arwain at greu’r fenter cyflogaeth gyntaf syn cefnogi pobl sy’n rheoli problemau iechyd meddwl yn y Sir. Mae hyn wedi creu amgylchedd lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys, eu gwerthfawrogi, yn gallu tyfu a datblygu. Hoffwn longyfarch Rhian ar ran Cyngor Sir y Fflint. Mae gwobrau arweinyddiaeth hir-sefydledig ac ymroddedig Cymru bellach yn eu deuddegfed blwyddyn. Maent yn ceisio cydnabod a dathlu rôl arweinyddiaeth fel sbardun allweddol o lwyddiant economaidd yng Nghymru. Dywedodd Cadeirydd Consortiwm Gwobrau Arwain Cymru Barbara Chidgey; Maen hollol glir bod arweinyddiaeth dda yn dod mewn bob lliw a llun a’i fod yn hanfodol ym mhob agwedd ar fywyd i yrru newid cadarnhaol a chynaliadwy. Mae’r her yw nodi a chydnabod arweinyddiaeth ddibynadwy, drawsnewidiol ac effeithiol gan fod y ffordd y mae unigolion yn arwain ynddoi hun yn amrywiol. Fodd bynnag, mae gan ein henillwyr ysbrydoledig yn y rownd derfynol ffactorau pwysig iawn yn gyffredin: maent yn frwdfrydig am eu hachos, busnes neu sefydliad; mae eu hegni a’u hymdrech yn cael ei gyfeirio at wneud gweledigaeth eu hachos yn realiti ac maent wir yn poeni am y bobl maent yn gweithio gyda nhw ac ar eu rhan; maent yn onest ac maent yn ddibynadwy. Rydym yn llongyfarch pob enillydd a phawb yn y rownd derfynol eleni.” Rhian yn derbyn ei gwobr gan Zoe Sweet o Academi Cymru, noddwyr y categori Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus