Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Helpu pawb i gael y gorau o’u bywydau

Published: 27/06/2016

Beth am fanteisio ar wefan newydd ar gyfer Cymru? Bydd adnodd newydd ar y we sy’n hyrwyddo lles ledled Cymru yn cael ei lansio’n ddiweddarach y mis hwn. Caiff Dewis Cymru (Cymraeg www.dewis.cymru Saesneg www.dewis.wales ) yn cael ei lansio’n swyddogol yng Nghynhadledd Genedlaethol Gwasanaethau Cymdeithasol yn Venue Cymru ar 30 Mehefin. Bydd y wefan yn darparu gwybodaeth i bobl ledled gogledd Cymru am weithgareddau a chymorth lles, yn seiliedig ar leoliad eu cod post a’u hanghenion. Mae gwybodaeth ar gael am bopeth o ddosbarthiadau canolfannau hamdden i grwpiau cymorth iechyd meddwl a llawer mwy, ac os nad ydych yn defnyddio’r rhyngrwyd holwch am Ddewis Cymru yn eich llyfrgell, eich canolfan hamdden neu unrhyw Gyngor Gwirfoddol Sirol. Mae’r wefan wedi’i datblygu yng ngogledd Cymru gan dros 800 o sefydliadau gan gynnwys y GIG, gwirfoddolwyr, sefydliadau dielw, elusennau, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, gwasanaethau cymdeithasol a darparwyr gofal. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Rydym am wneud popeth y gallwn i sicrhau fod pobl yn ymwybodol o’r holl wasanaethau a’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw. “Gall rhywbeth mor agos at adref a lleol â chlwb cinio neu fore coffi fod o gymorth enfawr i bobl a fyddai, fel arall, yn unig – mae sicrhau fod pobl yn cael eu cyfeirio at wasanaethau felly yn hynod bwysig. “Ac ar ben arall y raddfa, rydym hefyd am weithio gydag asiantaethau partner mwy ym maes iechyd, y trydydd sector ac awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ledled gogledd Cymru.” Am fwy o wybodaeth, chwiliwch neu porwch drwy www.dewis.cymru a www.dewis.wales .