Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gostyngiad mewn ardrethi busnes i fanwerthwyr
  		Published: 16/06/2014
Disgwylir i’r Cabinet gymeradwyo cynllun gostwng ardrethi busnes newydd i 
fanwerthwyr Sir y Fflint mewn cyfarfod ddydd Mawrth (17 Mehefin).
Amcangyfrifir y bydd 725 o fusnesau’n elwa o grantiau hyd at £1,000 a gynigir i 
fusnesau mewn adeiladau manwerthu a feddiennir sydd â gwerth ardrethol o 
£50,000 neu lai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bellach fod dros £580,000 o gyllid ar gael 
i Gyngor Sir y Fflint i ddiwallu anghenion siopau, bwytai, caffis ac adeiladau 
trwyddedig lleol.
Bydd y grantiau’n cael eu gweithredu yn y biliau net ar ôl i bob gostyngiad 
arall, gan gynnwys y gostyngiad ardrethi busnesau bach, gael eu tynnu.  Cesglir 
ardrethi busnes gan y Cyngor ar ran Llywodraeth Cymru.
Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod o’r Cabinet dros Reoli Corfforaethol: 
“Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i 
gynnig yr arbedion hyn i fusnesau lleol.  Gobeithiaf y bydd busnesau a 
gwasanaethau’n achub ar y cyfle i ddefnyddio’r gostyngiadau hyn mewn ardrethi a 
dylai roi hwb i’r economi leol.”
Os ydych yn berchen ar fusnes lleol cysylltwch â’r Cyngor am fwy o wybodaeth ar 
www.siryfflint.gov.uk