Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Maer dewis yn ddiddiwedd

Published: 29/06/2016

Mae Cymunedau yn Gyntaf Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn cydweithio â Phartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru a Theatr Clwyd ar raglen fusnes arloesol ar gyfer ysgolion cynradd. Maer prosiect Dewis Ddiddiwedd, a ysbrydolwyd gan Dragons Den ai dreialu yn Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, wedi ei anelu at ymgysylltu â phlant 9-11 oed i ddatblygu hyder, siarad cyhoeddus, mathemateg a Saesneg mewn ffordd hwyliog gyda’r nod yn y pen draw o’u paratoi i gynnig syniad busnes i Angylion sydd i gyd yn entrepreneuriaid busnesau lleol sy’n gwirfoddoli eu hamser. Cymerodd ysgolion St Ethelwolds yn Shotton ac Ysgol Maes Glas ym Maes-glas ran yn y fenter. Cafodd y gweithdai eu cyflwyno mewn dwy sesiwn dros gyfnod o wythnos rhwng 10 a 17 Mehefin. Adeiladodd y sesiwn ar eu sgiliau a gwaith tîm ac fei cyflwynwyd yn yr ysgol gyda dau o berfformwyr o Theatr Clwyd. Yn dilyn ymlaen o sesiwn 1 fe weithiodd y plant yn y dosbarth i ymarfer eu hachos yn barod ar gyfer eu cyflwyniad yr wythnos ganlynol. Cefnogwyd sesiwn 2 unwaith eto gyda’r ddau berfformiwr yn Theatr Clwyd. Roedd y plant yn cyflwyno eu hachos busnes gan dderbyn adborth cadarnhaol gan yr entrepreneuriaid busnes. Yr Angylion oedd Christine Sheibani, Cyfarwyddwr AD Comtek Network Systems, Dave Fildes Rheolwr Gyfarwyddwr dfs4, Becky Stark Cyfarwyddwr Stark Export Focus Limited a Sam Freeman Cyfarwyddwr Cyfathrebu i Theatr Clwyd. Dywedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Canlyniad y prosiect oedd creu hyder, meddwl yn greadigol, gwaith tîm, cyfranogiad effeithiol a hunan-gymhelliant. Mae wedii anelu at ddisgyblion blwyddyn 6 ac maen weithdy rhagarweiniol delfrydol i entrepreneuriaeth. Maer prosiect wedi bod mor llwyddiannus y bydd yn cael ei gyflwyno i 10 o ysgolion iau mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ym mis Medi.” Meddai Emyr John o Theatr Clwyd, a luniodd y prosiect ar ôl i Cymunedau yn Gyntaf gysylltu ag ef: “Mae hon yn enghraifft o sut y gellir defnyddio theatr fel offeryn, nid yn unig i ddysgu, ond i ysbrydolir genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.” Dywedodd Rheolwr Ymgysylltu Cyflogwyr Ymgyrraedd yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru, Paula Griffiths: “Trwyr bartneriaeth hon gyda Theatr Clwyd a Chymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, rydym yn defnyddio celfyddydau i godi dyheadau pobl ifanc a’u grymuso ac i greu eu syniadau eu hunain wrth archwilio cyfleoedd i symud ymlaen i Fusnes ac Addysg Uwch mewn ffordd arloesol a llawn hwyl.” Ynghyd âr gweithdy ar ddydd Gwener, 17 Mehefin, cafodd y plant y cyfle i weld To Dream Again gan Toby Hulse. Maer ddrama, i blant 7-11 oed, wedi’i hysbrydoli gan ddrama A Midsummer Night’s Dream gan William Shakespeare. Ariannwyd y prosiect gan Cymunedau yn Gyntaf - rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru – sy’n gweithio mewn partneriaeth â Phartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Sefydlwyd Ymgyrraedd yn Ehangach yn 2002 fel rhaglen gydweithredol a hirdymor i Gymru gyfan, i dorri rhwystrau canfyddedig i lawr ac ehangu mynediad i sgiliau addysg uwch a lefel uwch. AR SET MUCH ADO ABOUT NOTHING” Disgyblion o Ysgol St Ethelwolds gyda (yn y cefn) eu hathrawes, Christine Sheibani Cyfarwyddwr AD Comtek Network Systems, Dave Fildes Rheolwr Gyfarwyddwr dfs4 a Sam Freeman Cyfarwyddwr Cyfathrebu i Theatr Clwyd. Nia Davies yn y rhes flaen mewn du yw un or perfformwyr o Theatr Clwyd. Disgyblion o Ysgol Maes Glas (yn y cefn) gyda’u hathrawes, Christine Sheibani Cyfarwyddwr AD Comtek Network Systems, Dave Fildes Rheolwr Gyfarwyddwr dfs4 a Sam Freeman Cyfarwyddwr Cyfathrebu i Theatr Clwyd. Nia Davies yn y du ar y dde yw un or perfformwyr o Theatr Clwyd.