Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Caffi Dementia yn agor yn Sealand

Published: 13/07/2016

Maer caffi diweddaraf i gefnogi pobl syn dioddef o ddementia au gofalwyr wedi cael ei agor yn swyddogol yn Sealand. Maer caffi, syniad y Cynghorydd Christine Jones, y Cynghorydd David Wisinger ac un o Swyddogion Sir y Fflint, Luke Pickering-Jones, wedi bod yn bosibl drwy gefnogaeth a gwaith partneriaeth grwp cymunedol lleol, Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, Tai Wales & West a siop Tesco ym Mharc Siopa Brychdyn. Cafodd y caffi, a fydd ar agor unwaith y mis, bob 4ydd Dydd Llun, o 1-3pm ei agor yn swyddogol yn Hyb Cymunedol St Andrew’s yn Garden City gan yr Arglwydd Barry Jones, Llywydd Cymdeithas Alzheimer Sir y Fflint a Hyrwyddwr Dementia Cymru a oedd yng nghwmni ei wraig, y Fonesig Janet Jones. Yn ei araith rhoddodd yr Arglwydd Barry Jones ddiolch i bawb syn gysylltiedig ac aeth ymlaen i ddweud: “Mae hwn yn dîm cymunedol go iawn ac mae pob un ohonoch yn rhan ohono. Llongyfarchiadau i Gyngor Sir y Fflint, yr eglwys ar gymuned am gyfoethogi bywydau pobl leol. Mae’r Cynghorydd Christine Jones yn haeddu clod mawr am ei menter. Mae hyn yn ddychmygus a gofalgar iawn ohoni. Maer maes hwn o wasanaethau cymdeithasol mor bwysig ac mae’n bleser gen i gydnabod Sir y Fflint fel y sir gorau yng Nghymru - y sir sy’n cael ei harwain a’i threfnu orau.” Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Rydym wedi llwyddo i drefnu’r caffi hwn yn gyflym iawn – o’r egin syniad hyd rwan, mae wedi cymryd tua 2 mis. Maer grwp cymunedol, Cyfeillion Dementia Sealand a Queensferry, wedi bod yn wych fel y mae ein swyddogion ein hunain o’r gwasanaethau cymdeithasol a Chymunedau yn Gyntaf. Hoffwn ddiolch i Dai Wales and West sydd wedi rhoir llestri a’r llieiniau bwrdd hyfryd a hefyd ir Cyng Alex Lewis syn hyrwyddwr cymunedol ar gyfer Tesco sydd wedi rhoir diodydd a’r cacennau ar gyfer y digwyddiad a bydd yn parhau i wneud hynny. “Rhaid diolch yn arbennig i’r holl wirfoddolwyr gwych - yr holl famau ifanc syn aelodau or pwyllgor - maent wedi bod yn anhygoel ac ni fyddai wedi bod yn bosibl i agor ein caffi mor fuan ag y gwnaethom hebddynt. “Hoffwn gymryd y cyfle hwn i annog mwy o wirfoddolwyr a mwy o bobl â dementia au gofalwyr i ddod in caffi.” Mae Caffis Dementia yn darparu amgylchedd diogel, cyfforddus a chefnogol ar gyfer pobl â dementia au gofalwyr i gymdeithasu. Yn ogystal â chynnig amrywiaeth o weithgareddau difyr a hwyliog, mae Caffis Dementia yn rhoi cyfle i ofalwyr a phobl â dementia gael gwybodaeth a chyngor a siarad â phobl eraill sydd â phroblemau tebyg. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr dros Tai Wales & West: “Gyda chaffi dementia llwyddiannus yn ein cynllun gofal ychwanegol yn Llys Jasmine yn yr Wyddgrug, rydym yn ymwybodol iawn or angen i sefydlu mwy ohonynt. Rydym yn falch iawn o fod wedi gwneud cyfraniad ac yn dymuno llwyddiant i’r tîm.” Hefyd yn bresennol oedd disgyblion o Ysgol Gynradd Sealand a oedd wedi dylunior poster ar gyfer y caffi. Cyflwynodd yr Arglwydd Barry Jones eu gwobrau i’r ddau enillydd. Am ragor o wybodaeth ynghylch y caffi, cysylltwch â Jo Rowan ar 07341 828983. Or chwith ir dde yn sefyll: Neil Ayling – Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Sharon Jones – Rheolwr Cyflawni Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf, Luke Pickering-Jones Swyddog Cyngor Sir y Fflint, Yr Arglwydd Barry Jones, Cyng Mike Walker - Cadeirydd Cyngor Cymuned Sealand, Cyng Alex Lewis - Is-gadeirydd Cyngor Cymuned Sealand a Hyrwyddwr Tesco, Hayley Jones - Cadeirydd Cyfeillion Dementia Sealand a Queensferry (DFSQ), Jo Rowan - DFSQ, Parch Steven Green - Ficer St Andrew’s, Louise Bryant - Is-gadeirydd DFSQ, y Cyng David Wisinger, Anne Caloe, WWHA. Or chwith ir dde yn eistedd: Y Fonesig Janet Jones, Jean Morgan, Charlie Ellis a Pauline Ellis