Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar bawb i ‘rewi bwyd a pheidio âi wastraffu’ yn ystod Wythnos Diogelwch Bwyd eleni

Published: 04/07/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar bawb i ‘rewi bwyd a pheidio âi wastraffu’ yn ystod Wythnos Diogelwch Bwyd eleni Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Wythnos Diogelwch Bwyd 2016 (4-10 Gorffennaf), ac maer ymgyrch eleni yn canolbwyntio ar helpu pobl i ddeall sut y gallant wastraffu llai o fwyd yn ddiogel, drwy fanteisio ir eithaf ar eu rhewgell! Mae gwaith ymchwil newydd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi dangos bod 68% o oedolion yn y Deyrnas Unedig wedi nodi eu bod wedi taflu bwyd yn y mis diwethaf. Dywedodd dros draean (36%) or rheiny a oedd wedi taflu bwyd eu bod wedi gwneud hynny gan ei fod wedi mynd heibior dyddiad defnyddio erbyn. Roedd rhesymau eraill dros daflu bwyd yn cynnwys prynu gormod a ddim yn ei fwyta. Dywedodd 30% eu bod wedi gwneud hyn; a ddim yn cael y cyfle i fwyta bwyd cyn iddo fynd yn ddrwg. Roedd hyn yn esgus dros daflu bwyd ir bin gan dros chwarter (23%). Mae hyn yn cyfrannu ir saith miliwn tunnell o fwyd syn cael ei wastraffu yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Yn ôl ymgyrch Caru Bwyd, Casáu Gwastraff, mae hyn yn costio £470 bob blwyddyn ir cartref cyffredin. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch yr ASB i annog ei drigolion i helpu fynd ir afael âr broblem o wastraffu bwyd drwy gynllunio ymlaen llaw ac, os oes angen, rhewi bwyd o fewn ei ddyddiad defnyddio erbyn os oes perygl eu bod yn ei daflu ar ôl ir dyddiad hwn fynd heibio. Meddai Kevin Hargin, Pennaeth Clefydau a Gludir gan Fwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB): “Bob blwyddyn, rydym nin gwastraffu saith miliwn tunnell o fwyd a diod yn ein cartrefi. Mae llawer or gwastraff hwn yn ddiangen, a thrwy wella dealltwriaeth o sut i rewi bwyd yn ddiogel, fe all gyfrannun sylweddol at drechur broblem hon. “Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod llawer or pryderon hynny sydd gan bobl am rewi bwyd yn ddi-sail, ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn gwybod y ffeithiau. Dywedodd 31% or rheiny y bu i ni siarad â nhw y byddai gwybodaeth am sut i rewi bwyd yn ddiogel yn eu helpu i leihau gwastraff bwyd – dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar rewi yn ystod yr Wythnos Diogelwch Bwyd eleni. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwarchod y Cyhoedd a Gwastraff: “Mae llawer o bobl yn credu mai dim ond ar y diwrnod y cafodd y bwyd ei brynu y gallwch chi ei rewi, ond maer rhewgell yn ymddwyn fel botwm stop, a gallwch rewir mwyafrif o fwydydd yn ddiogel hyd at y dyddiad defnyddio erbyn. Gallwch hyd yn oed goginio cig sydd wedii ddadmer, ai rewi er mwyn ei ddefnyddio ar ddiwrnod arall. Gyda chymaint o fwyd yn cael ei daflu yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, rydym am i drigolion Sir y Fflint i feddwl am sut y gallant fanteisio ar eu rhewgell, yn hytrach na thaflu bwyd ir bin.” “Er bod bwyd yn ddiogel mewn rhewgell, maer ansawdd yn gwaethygu dros amser, felly maer ASB yn argymell ei fwyta o fewn tri i chwe mis. Edrychwch am unrhyw gyfarwyddiadau rhewi ar y pecyn. Unwaith ir bwyd gael ei ddadmer, nid ywr botwm stop yn gweithio rhagor, fell cofiwch ddadmer bwyd yn ôl yr angen ai fwyta o fewn 24 awr i chi ei ddadmer yn drylwyr.” I gael rhagor o wybodaeth am rewi bwyd yn ddiogel, ewch i www.food.gov.uk/defnyddioerbyn neu gallwch ddilyn @fsacymru ac @fsawales #BwytaCoginioRhewi ar Twitter i gael ambell air o gyngor drwy gydol yr Wythnos Diogelwch Bwyd.