Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad o adroddiad AGGCC

Published: 16/06/2014

Bydd canlyniad adolygiad o ofal cymdeithasol i oedolion yn Sir y Fflint yn cael ei ystyried gan y Cabinet mewn cyfarfod ddydd Mawrth (17 Mehefin) ynghyd â datblygiad cynllun gweithredu i atgyfnerthu’r gwasanaeth ymhellach. Tynnodd yr adolygiad gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeiethasol Cymru (AGGCC) sylw at y gwasanaethau positif sydd ar gael i bobl sy’n byw â dementia yn Sir y Fflint. Canmolwyd y pwyslais y mae’r Cyngor yn ei roi ar wasanethau ymatebol o safon, gan amlygu polisi’r Cyngor i beidio â chrynhoi ymweliadau i gynorthwyo pobl yn eu cartrefi mewn 15 munud. Roedd yr adroddiad hefyd yn canmol y tîm gofal cartref ‘Byw’n Dda’ sy’n cynorthwyo pobl sy’n byw â dementia ac sy’n defnyddio staff gofal mewnol a Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWCIS) fel model o arfer gorau i gynorthwyo gofalwyr a’u teuluoedd. Mae’r adroddiad yn rhestru targedau a fydd yn creu’r cynllun gweithredu gan gynnwys datblygu partneriaeth bellach gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwalader (BIPBC) ac mae manylion eisoes mewn lle i ddatblygu’r mentrau. Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Mae’r adroddiad hwn yn cydnabod fod Sir y Fflint yn arwain y ffordd ar ofal dementia ac rwy’n falch iawn o’n gwasanaethau megis caffis dementia, tai gofal ychwanegol arbenigol a chymorth gofal cartref o safon. Mae staff hyfforddedig yn cymryd eu hamser gyda phobl ac yn rhoi’r gofal y maent yn ei haeddu i drigolion.” “Bydd datblygu ein partneriaethau gydag asiantaethau lleol drwy’r cynllun gweithredu newydd yn arwain at waith cydgysylltiedig a gwell gwasanaethau i’n holl drigolion.” Meddai Mark Jenkinson, Rheolwr Rhaglenni Iechyd Pobl Hyn yn BIPBC: “Rydym yn parhau i groesawu gweithio mewn partneriaeth a chydgynllunio gwasanethau Cyngor Sir y Fflint a BIPBC i bobl hyn. Bydd hyn yn cael ei wella ymhellach yn 2014-15 drwy ddefnyddio cyllid gofal canolraddol sydd newydd ei ryddhau i gynorthwyo pobl yn y gymuned ac i’w helpu i osgoi gorfod mynd i’r ysbyty yn ddi-angen.” Gwelir copi llawn o adroddiad archwilio AGGCC ar wefan www.cssiw.org.uk