Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


SHARP: Cam 2

Published: 08/07/2016

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint yn ystyried cynigion ar gyfer datblygu 40 o gartrefi Cyngor newydd ar 5 safle yn yr Wyddgrug, Coed-llai a Chei Connah dan Gam 2 o Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) y Cyngor mewn cyfarfod ddydd Mercher, 13 Gorffennaf. Mae cynigion manwl wedi’u cyflwyno ar gyfer cartrefi newydd ar safleoedd yn Ysgol Delyn, yr Wyddgrug (16); Heol y Goron (5) a Maes y Meillion, Coed-llai (8); Redhall (5) a The Dairy, Ffordd yr Wyddgrug (6) yng Nghei Connah. Bydd pob ty’n cael ei gynllunio i gydymffurfio â Safon Tai Sir y Fflint y Cyngor. Mae’r safon yn cydymffurfio â Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a byddant yn ganllaw i gynllun a manyleb yr holl dai newydd a fydd yn cael eu darparu drwyr rhaglen hon. Mae hyn yn cynnwys cynllun mewnol o safon uchel cyson ar gyfer tai, safonau uchel o effeithlonrwydd ynni a lle parcio digonol. Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r 5 safle hwn yn ffurfio’r camau allweddol nesaf yn ein rhaglen uchelgeisiol i adeiladu tai a bydd yn ychwanegu at gynnydd sylweddol syn cael ei wneud yn y datblygiadau sydd ar waith ar hyn o bryd yn The Walks yn y Fflint ac yn Nghei Connah ar safle hen Ysgol Custom House Lane, lle mae disgwyl i’r cartrefi Cyngor newydd cyntaf mewn ers dros 20 mlynedd gael eu cwblhau cyn y Nadolig.” Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai: “Rwyn falch iawn or cynnydd syn cael ei wneud i adeiladu tai i ateb y galw mawr sydd am dai newydd a bod uchelgeisiaur Cyngor i ddarparu mwy o dai cymdeithasol a fforddiadwy i bobl Sir y Fflint yn cael eu gwireddu.” “Bydd Polisi Gosodiadau Lleol yn cael ei ddatblygu i bob un o’r cynlluniau arfaethedig er mwyn sicrhau bod y nifer fwyaf posibl o gyfleoedd am dai i bobl leol.”