Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfleoedd adeiladu ESGYN

Published: 13/07/2016

Mae ESGYN Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o gontractwyr yn Y Fflint i gynnig cyfleoedd i gleientiaid ESGYN drwy eu cynlluniau mantais gymunedol. Cynigiodd un contractwr, ‘SERS Energy Solutions LTD’ (SERS) sydd wedi bod yn uwchraddio tu allan i dyrrau, leoliadau gwaith 2 wythnos, treialon gwaith 4 wythnos a chyfleoedd cyflogaeth. Roedd hyn o fantais fawr i gleientiaid ESGYN, a thrwy’r broses hon, aeth tri cleient ymlaen i gael gwaith llawn amser ar safle’r Fflint. Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: “Mae ESGYN wedi cynnig cyfle i gleientiaid oedd yn awyddus i fynd i’r maes adeiladu i gwblhau Cwrs Lefel 1 a Lefel 2 mewn Iechyd a Diogelwch. Galluogodd hyn hwy i gael eu cerdyn Labrwr CSCS sydd bellach yn hanfodol er mwyn cael caniatâd i fynd ar safleoedd adeiladu. Rhoddodd ESGYN hefyd gyfarpar diogelu a phersonol (Cyfarpar Diogelu Personol) i gleientiaid, oedd yn cynnwys dillad gwaith ac esgidiau priodol. “Mae’n gam gwych i bobl sy’n gwybod beth maent am ei wneud ond sy’n ansicr ynglyn â sut i gyrraedd yno. Mae’n wych bod 3 o bobl bellach wedi dod o hyd i waith llawn amser drwy’r fenter hon – diolch i gydweithio rhwng ESGYN a’n contractwyr sy’n gweithio ar y rhaglen gyflenwi SATC.” Un o’r cleientiaid hyn yw Kane Fox. Cofrestrodd Kane, sy’n 19 oed gydag ESGYN ym mis Ebrill y llynedd a sylweddolodd yr hoffai ddilyn gyrfa yn y diwydiant adeiladu. Meddai Mentor Prosiect ESGYN Sir y Fflint, Debbie Barker: “Gan nad oedd gan Kane brofiad na chymwysterau yn y maes hwn, fe wnaethom ni ddod o hyd i’r hyfforddiant a’r profiad gwaith cywir iddo. Fe drefnwyd lleoliad gwaith am bythefnos iddo gyda Willmott Dixon a chadw lle iddo ar gyrsiau CITB mewn Iechyd a Diogelwch ar gyfer ei gerdyn CSCS, Cymorth Cyntaf gyda’r Groes Goch a Chwrs Gweithio o Uchder gyda chwmni iechyd a diogelwch yn Yr Wyddgrug. Ar ddiwedd yr hyfforddiant hwn, roedd gan Kane bortffolio hyfforddiant a geirda gwych. Dangosodd Kane ymrwymiad i ESGYN, felly fe wnaethom drefnu iddo fynd ar Gwrs Cerbydau Fforch Godi, a bu’n llwyddiannus.” Rhoddodd hyn gyfle i dîm ESGYN ddod o hyd i brofiad gwaith i Kane gyda SERS lle bu Kane yn gweithio i ddechrau gyda’r tîm ffitio ffenestri ar leoliad gwaith am bythefnos. Cafodd Kane wedyn gynnig prawf gwaith, a fis Ionawr eleni cafodd gynnig gwaith llawn amser ar y safle. Mae’r datblygiad hwn yn dod i ben bellach ac mae Kane wedi cael gwybod ei fod yn cael ei gymryd ymlaen fel prentis yn barhaol. Dywedodd Kane wrth siarad am ei brofiadau gydag ESGYN Sir y Fflint: “Rhoddodd ESGYN gyfle i fi gael gwaith, ond hefyd rhoddodd gychwyn i fi ar lwybr gyfra. Rydw in 19 oed ac mae gen i nod gyrfa bellach. Mae’r cymwysterau sydd gen i bellach ar fy CV, yn ogystal â’m profiad gwaith, wedi fy ngwneud yn benderfynol o gyflawni fy nyheadau. Heb ESGYN Sir y Fflint a’r cyfleoedd gwych maent wedi ei roi i fi, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib.” Mae Kane ar hyn o bryd yn gweithio ar gontract dros dro gyda ‘Warmer Energy’, ac yn gweithio ar ddiweddarur system wresogi yn y Tyrau yn Y Fflint. Cysylltwch ag ESGYN Sir y Fflint ar 01244 846090 neu Debbie.barker@Flintshire.gov.uk er mwyn trafod cymwysterau a lleoliadau yn y diwydiant Adeiladu. Meini Prawf Esgyn: Di-waith am 6 mis a mwy Yn byw mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf Yn byw mewn cartref di-waith O’r chwith i’r dde Mark Phythian, Arolygwr Contractau CSyFf, Debbie Barker, Cymunedau’n Gynraf, Cyng Derek Butler, Kane Fox, Tony Jones, Rheolwr Gweithiau Cyfalaf CSyFf, Cyng Helen Brown, Aelod Cabinet ar gyfer Tai, John Cottrell, SERS