Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae angen eich barn ar Foderneiddio Ysgolion

Published: 13/07/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i barhau i foderneiddio ysgolion y Sir i sicrhau darpariaeth system addysg syn perfformion dda gan gynnig gwell darpariaeth addysgu a mwy o gyfleoedd in preswylwyr ifanc. Maer Cyngor bellach yn adolygur ddarpariaeth addysg yn y tair ysgol a ganlyn: Ysgol Gynradd Brynffordd, Ysgol Gynradd Licswm ac Ysgol Rhos Helyg, Rhosesmor ac eisiau annog pawb sydd â diddordeb i fynegi eu barn ar ba un o’r tri opsiwn (a gytunwyd gyda chyrff llywodraethu pob un o’r 3 ysgol y llynedd) oedd yn well ganddynt: Opsiwn 1: Status Quo Opsiwn 2: Ysgol Ardal ar Un Safle Opsiwn 3: Cadw Ysgol Rhos Helyg, Rhosesmor ac un Ysgol Ardal ar un safle. Maer cyngor yn awyddus i gyfarfod a thrafod safbwyntiau pawb sydd â diddordeb ac eisoes wedi gweithion agos gyda disgyblion o bob ysgol i gael eu barn gychwynnol. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Fel Cyngor blaengar a rhagweithiol, rydym am sicrhau bod darpariaeth addysg o ansawdd uchel ac yn gynaliadwy. Maen bwysig bod gennym adeiladau ysgol a chyfleusterau ysgolion or ansawdd uchaf wrth ddarparu’r nifer cywir o leoedd yn y lleoliadau iawn. Yn y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd, mae angen i ni gydnabod bod gwneud dim yn golygu cymarebau disgybl-athro uwch ledled y sir wrth i arian leihau. Rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o arian allanol trwy Raglen Ysgolion yr 21 Ganrif gan Lywodraeth Cymru.” Dechreuodd ymgynghoriad anffurfiol ar yr opsiynau ar gyfer yr ardal ar 1 Gorffennaf a bydd yn para tan 5 Awst, 2016. Aeth y Cynghorydd Bithell ymlaen i ddweud: “Hoffair Cyngor gael eich barn a fydd yn cael ei gyflwyno, ynghyd âr holl ddogfennau Gwerthuso Effaith (sydd ar gael iw gweld ar ein gwefan), i Gabinet y Cyngor. Bydd y Cabinet yn ystyried eich safbwyntiau a’r dogfennau yn ofalus. Gallwch roi eich ymatebion: · Eu gosod yn y Blwch Post Moderneiddio Ysgolion yn eich ysgol · Drwy lenwi holiadur ar-lein yn: https://www.surveymonkey.co.uk/r/ASRLBR · Drwy lenwi ffurflen ymateb ai dychwelyd ir Tîm Moderneiddio Ysgolion, Addysg ac Ieuenctid, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 6ND; neu · Fel arall, anfonwch eich ymatebion/cwestiynau yn ysgrifenedig at y Tîm Moderneiddio Ysgolion, Addysg ac Ieuenctid, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6ND neu e-bost: 21stcenturyschools@flintshire.gov.uk. Am fwy o wybodaeth ewch i www.siryfflint.gov.uk/moderneiddioysgolion