Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion newydd yn agor ym mis Medi

Published: 15/07/2016

Wrth iddynt edrych ymlaen at symud i’w hysgolion newydd sbon ym mis Medi, mae’r plant wrthi’n dogfennu hanes eu hysgolion ar gyfer cenedlaethaur dyfodol drwy osod erthyglau mewn capsiwl amser. Mae capsiwl amser wedi cael ei adeiladu yn wal ffreutur yr adeilad newydd ar Gampws Dysgu Treffynnon gwerth £30 miliwn lle bydd yr ysgolion cynradd ac uwchradd newydd wedi’u cydleoli ar safle’r hen Ysgol Uwchradd. Dechreuodd y gwaith adeiladu y llynedd ac mae’n mynd rhagddon dda ac ar amser. Bydd yr ysgolion newydd yn agor ym mis Medi 2016. Bydd yr ysgol gynradd newydd, or enw Ysgol Maes y Felin yn gwasanaethu dysgwyr hyd at 11 oed. Bydd yr ysgol gynradd yn rhannu safle â chyfleuster newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Treffynnon a fydd yn cael ei adeiladu er mwyn darparu addysg i rai 11-16 oed. Gosododd disgyblion or ysgolion gapsiwl amser i mewn ir wal a oedd yn cynnwys gwybodaeth am yr ysgol, llythyrau, prosbectws, gwybodaeth am weithgareddaur ysgol, darluniau, ffotograffau a llawer o gofroddion eraill. Yr ysgolion syn cymryd rhan yn y prosiect hwn yw Ysgol Uwchradd Treffynnon yn ogystal â disgyblion o Ysgol Fabanod Perth y Terfyn ac Ysgol Iau Ysgol y Fron y bydd yr ysgol newydd yn eu disodli, a’r ysgolion partner Ysgol Gynradd Licswm, Ysgol Y Llan - Chwitffordd, Ysgol Bro Carmel, Ysgol Glan Aber, Bagillt, Ysgol Maesglas, Greenfield ac Ysgol Bryn Garth, Penyffordd Treffynnon. Bydd lle i 600 o ddisgyblion yn yr ysgol uwchradd trillawr a lle i 315 o ddisgyblion yn yr ysgol gynradd unllawr. Bydd plant cynradd a myfyrwyr oedran uwchradd yn cael eu haddysgu yn yr adeilad newydd or radd flaenaf gydar holl gyfleusterau TG modern i gynorthwyo gyda dysgu. Dwedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: “Yn fuan, fe y disgyblion yn symud iw hysgolion newydd ond roeddynt yn awyddus i sicrhau nad yw atgofion yn cael eu hanghofio. Mae Galliford Try wedi gweithion agos gydar plant ac maent wedi ein cynnwys ni o’r cychwyn. “Maer ysgolion newydd wedi cael eu hadeiladu i safon uchel, i ddarparu cyfleusterau or radd flaenaf a modern ar cyfleoedd dysgu gorau in plant. Rydym yn dymuno’r gorau i staff ar disgyblion yn eu hamgylchedd newydd”. Dywedodd Jim Parker, Rheolwr Gyfarwyddwr dros Galliford Try North West: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gydar holl ysgolion syn cymryd rhan ar cyngor i goffáur digwyddiad hwn. Maen parhau i fod yn ffynhonnell o foddhad mawr i’r tîm cyfan sydd wedi gweithio ar y prosiect hwn i wybod y bydd y disgyblion hyn yn elwa am flynyddoedd i ddod o’r cyfleusterau newydd yma, ac rydym yn dymuno’n dda iddynt yn eu hysgol newydd pan fydd yn agor ym mis Medi.”