Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ynglyn â’r Cynllun Gwella

Published: 17/06/2014

Bydd y gwelliannau a wnaed gan Gyngor Sir y Fflint y llynedd yn cael eu hadrodd wrth gynghorwyr mewn cyfarfod o’r Cabinet ddydd Mawrth (17 Mehefin) pryd y byddant hefyd yn ystyried y Cynllun Gwella ar gyfer y flwyddyn nesaf. Maer Cyngor yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwelliant bob blwyddyn yn y Cynllun Gwella, gan weithio ar dargedau cyffredinol i ddatblygu gwasanaethau a safonau byw ledled y Sir. Gan edrych ymlaen at 2014-15 mae’r cynllun o gymorth i’r sefydliad ganolbwyntio ar rai meysydd ac fei rhennir yn wyth prif flaenoriaeth, sef yr Amgylchedd, Tai, Byw yn Dda, Tlodi, yr Economi a Menter, Sgiliau a Dysgu, Cymunedau Diogel a Chyngor Modern ac Effeithlon. Maer ddogfen flynyddol hon yn darparu Adroddiad Perfformiad blynyddol y Cyngor ac yn dangos a ywr Cyngor yn cyrraedd ei nodau. Mae uchafbwyntiau cynllun 2013-14 yn cynnwys gweithredu cynlluniau moderneiddio ysgolion cynradd ac uwchradd; cwblhau cynllun ar gyfer diweddaru seilwaith technoleg ar draws pob ysgol; darparu rhagor o dai fforddiadwy yn Sir y Fflint a datblygu cynlluniau byw â chymorth Gofal Ychwanegol. Gydar ail ganolfan wedi ei chwblhau yn yr Wyddgrug, maer Cyngor yn awyddus i adeiladu dau gyfleuster gofal ychwanegol yn dilyn yr un model yn y Fflint ac yn Nhreffynnon. Blaenoriaeth bwysig arall oedd helpu rhagor o bobl i fyw yn dda ac yn annibynnol yn eu cartrefi a gwella ansawdd bywyd i breswylwyr, maer rhain yn parhau i fod ar yr agenda ar gyfer y flwyddyn nesaf. Y llynedd roedd y Cyngor hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo Glannau Dyfrdwy fel canolfan gydnabyddedig ar gyfer ynni a gweithgynhyrchu uwch. Bydd Sir y Fflint yn parhau i ddatblygu cyfleoedd buddsoddi yn 2014-15 yn ogystal â diwallu anghenion hyfforddiant a chyflogaeth trwy ddarparu prentisiaethau a chreu swyddi. Maer cynllun newydd yn edrych ar sefydlu mentrau cymdeithasol i gynnig lleoliadau gwaith a datblygu sgiliau. Mae blaenoriaethau eraill yn 2014-15 yn cynnwys datblygu Prif Gynlluniau Canol Tref i warchod ffyniant canol trefi Sir y Fflint a chefnogi gweithgarwch economaidd; gwelliannau i ddiogelwch y ffordd a hygyrchedd rhwng cartrefi, mannau gwaith a chyfleusterau hamdden yn ogystal ag ymrwymiad i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen y cyngor a gwneud y defnydd gorau o adnoddau. Roedd amddiffyn pobl rhag tlodi yn uchel ar restr blaenoriaethau gwella’r Cyngor ar gyfer 2013-14, ac roedd Diwygio’r Gyfundrefn Les yn bryder penodol. Maer Cyngor yn parhau i weithio i helpu atal digartrefedd, i helpu pobl i hawlior budd-daliadau sy’n ddyledus iddynt ac i helpu rheoli effaith Diwygio’r Gyfundrefn Les ar bobl fwyaf diamddiffyn y sir. Yn 2014-15, bydd y Cyngor hefyd yn canolbwyntio ar gam-drin domestig a chamddefnyddio sylweddau fel rhan o gadw cymunedau’n ddiogel. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: “Trwy fesur yr hyn ‘dan ni yn ei gyflawni yn y Cynllun Gwella mi fydd y Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau a gafodd eu gosod ac ar wella gwasanaethau i drigolion Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Maer cynlluniau a’r adroddiadau yma’n profi bod y Cyngor yn flaengar ac yn parhau i symud ymlaen. Maen nhw’n rhoi cyfeiriad clir ar gyfer gwelliant ac yn helpu i osod yr agenda ar gyfer blaenoriaethau i’r dyfodol. Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr: “Mi fydd yr Adroddiad Perfformiad yn rhoi syniad da or cynnydd maer Cyngor yn ei wneud mewn meysydd sydd wedi cael eu hamlygu fel blaenoriaethau. Mae rhai prosiectau wedi cael eu gorffen, mae rhai yn mynd rhagddynt ac yn cael eu dwyn ymlaen ir flwyddyn nesaf ond y peth pwysig yw bod Sir y Fflint yn cyrraedd ei thargedau ac yn gosod blaenoriaethau newydd i ddatblygu perfformiad y Cyngor bob blwyddyn.