Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau’n Gyntaf Sir y Fflint yn cefnogi FareShare

Published: 18/07/2016

Mae Cymunedau’n Gyntaf Sir y Fflint wedi ymuno’n ddiweddar â phrosiect FoodCloud FareShare yng Ngogledd Cymru. Nod y cynllun yw ailddosbarthu bwyd sy’n addas i’w fwyta o siopau yn uniongyrchol i elusennau, sefydliadau dielw a grwpiau cymunedol. Mae FareShare, sy’n elusen genedlaethol, ar hyn o bryd yn lansio’r cynllun hwn yn siopau Tesco Extra a Tesco Superstore ar draws Gogledd Cymru. Bu Vera Davey, Swyddog Arweiniol Iechyd Cymunedau’n Gyntaf, yn helpu dau grwp gwirfoddol lleol sydd wedi’u lleoli ym Maes Glas i gofrestru ar gyfer y cynllun yn ddiweddar. Mae’r grwpiau’n darparu prydau poeth a lluniaeth i’w cymunedau am bris fforddiadwy. Daeth Ashley Cooper, cydlynydd prosiect Fareshare, i ymweld â gwirfoddolwyr o Glwb Cinio Maes Glas i esbonio’r broses ddosbarthu ac i wneud yn siwr bod y grwp yn bodloni’r gofynion angenrheidiol. Roedd hyn yn cynnwys cael cegin ddigonol a chyfleusterau rhewgell, a gwirfoddolwyr gyda thystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 2. Bydd grwp bore coffi Maes Glas, a gynhelir gan ferched Eglwys y Drindod Sanctaidd, hefyd yn cael rhoddion wythnosol. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae hwn yn gynllun gwych ac yn ffordd dda iawn o sicrhau nad yw bwyd da’n cael ei wastraffu ac y gall pobl leol elwa o gael prydau maethlon a chost-effeithiol.” Meddai Sheena Willbanks, gwirfoddolwr gyda’r Clwb Cinio a Chynghorydd Tref Maes Glas: “Bydd cymryd rhan yn y prosiect FareShare o fudd enfawr i ni. Dechreuodd y clwb cinio fel grwp bach iawn ychydig llai na dwy flynedd yn ôl a chyda cymorth Cymunedau’n Gyntaf, rydym wedi tyfu’n grwp cymunedol llwyddiannus gyda chyfartaledd o ddeg ar hugain o bobl yn dod atom ni’n rheolaidd. Byddwn yn cynnig pryd poeth dau-gwrs a lluniaeth am bris rhesymol iawn, a bydd y bwyd a gawn o’r cynllun hwn yn ein galluogi i ychwanegu at y prydau. Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyfle i gael cymryd rhan.”