Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Gyfnewid Ieuenctid Siapan Sir y Fflint

Published: 19/07/2016

Mae Rhaglen Cyfnewid Ieuenctid Siapan eleni wedi cael ei gefnogi gan Toyota UK unwaith eto. Bob blwyddyn, mae myfyrwyr lleol yn cael cyfle i ddysgu am ddiwylliant Siapan, diolch ir rhaglen gyfnewid ieuenctid syn talu am chwe lleoliad myfyrwyr. Bydd teuluoedd y myfyrwyr llwyddiannus yn rhoi llety i’w hymwelwyr o Siapan am bythefnos. Yna caiff myfyrwyr Sir y Fflint gyfle i deithio i Siapan ac aros gydau myfyrwyr Siapaneaidd partner a’u teuluoedd. Maer rhaglen gyfnewid wedi bod yn rhedeg ers 1991, diolch i gronfa ymddiriedolaeth a sefydlwyd gan gwmni syn seiliedig yn Buckley, Optec Ltd. Ariennir y rhaglen hefyd gan grantiau a rhoddion, gan gynnwys rhoddion gan Toyota UK sydd wedi’u lleoli yng Nglannau Dyfrdwy a The Great Britain Sasakawa Foundation, syn cefnogi rhaglenni addysgol Siapaneaidd. Cyflwynodd Martin Fry o Adran Materion Cyffredinol Toyota o’r Ffatri ar Lannau Dyfrdwy eu siec i Karen Jones o Gyngor Sir y Fflint. Roedd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint Aaron Shotton ar Prif Swyddog ac Ymddiriedolwr Ian Budd hefyd yn bresennol i ddiolch i Martin am y rhodd. I fod yn gymwys i wneud cais am le ar raglen gyfnewid y flwyddyn nesaf, mae’n rhaid i fyfyrwyr fod rhwng 16 a 18 oed ar 1 Medi 2016, mewn addysg llawn amser yn Sir y Fflint neu mewn addysg llawn amser ac yn byw yn Sir y Fflint. I gael syniad o’r hyn maen ei olygu ir myfyrwyr au teuluoedd, bydd noson wobrwyo yn cael ei chynnal nos Lun 1 Tachwedd, am 6.30pm yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. Bydd myfyrwyr a fu’n cymryd rhan yn y rhaglen gyfnewid eleni yn rhoi cyflwyniad am eu profiad ar manteision y maent wedii gael ohono. Bydd rhieni’r myfyrwyr hefyd yn rhoi cipolwg ou safbwynt. Bydd ceisiadau ar gyfer y rhaglen gyfnewid ar gael ar y noson, neu drwy gysylltu â Karen Jones 07759295984 neu drwy anfon e-bost at karenjones@flintshire.gov.uk. O’r chwith: Y Cynghorydd Shotton, Karen Jones, Martin Fry ac Ian Budd