Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tref yn cael cymorth ar gyfer gweddnewid

Published: 20/07/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno cynllun grantiau gwella siopau ym Mwcle y mis hwn ac yn gofyn i fusnesau sydd â diddordeb i gysylltu â ni. Y meini prawf ar gyfer y grant fydd: · cyllid cyfalaf hyd at £10,000 yr eiddo · mae angen iddo fod o fudd i edrychiad y dref, neu ailddefnyddio eiddo gwag; · mae angen iddo fod yn ardal manwerthu craidd canol tref Bwcle; · rhaid cael arian cyfatebol – byddwn yn darparu 60% tuag at gost gwaith mewnol ac 80% ar gyfer gwaith allanol; · ni fydd yn cefnogi gwaith cynnal a chadw arferol na phrynu offer. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: “Mae hwn yn gynllun gwych i helpu perchnogion busnesau i uwchraddio eu hadeiladau - y tu mewn ar tu allan, a helpu i anadlu bywyd newydd i ganol y dref. Byddwn yn annog perchnogion adeiladau neu denantiaid i gysylltu â ni i weld sut y gallant wneud cais. Mae £85,000 ar gael i gyd gan y Cyngor, felly bydd ceisiadau yn cael eu trin ar sail y cyntaf ir felin. “Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar eiddo Stryd Fawr i wella edrychiad yr unedau (gwaith allanol) ac i fynd ir afael ag eiddo gwag (gwaith mewnol ac allanol).” Bydd rhagor o fanylion, cymorth i helpu ymgeiswyr trwyr broses a phecyn cais llawn ar gael yn fuan ond os hoffech fynegi diddordeb yn anffurfiol neu os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch â 01352 701427 neu andrew.redfern@flintshire.gov.uk.