Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cabinet yn croesawu mentrau cyffrous ac arloesol

Published: 22/07/2016

Croesawodd aelodaur Cabinet sawl adroddiad a mentrau cyffrous ac arloesol pan wnaethant gyfarfod ddydd Mawrth, 19 Gorffennaf. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi perfformion dda yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae ein perfformiad da cyson wedi cael ei gydnabod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a ddywedodd y canlynol am ein perfformiad yn 2014/15: “Mae perfformiad y Cyngor hwn, o gymharu â chynghorau eraill yng Nghymru, wedi gwella’n sylweddol”. Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: “Maer Cyngor yn gwneud cynnydd da. Er gwaethaf y pwysau ariannol, a gostyngiadau mewn cyllid cenedlaethol, mae Sir y Fflint wedi bod yn greadigol ac wedi llwyddo i ddiwallu ei nodau am flwyddyn arall. Rydym yn parhau i gyrraedd a rhagori ar ein targedau ac yn parhau i ddangos gwelliant flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mewn adroddiad arall, clywodd y Cabinet am berfformiad blynyddol llwyddiannus y Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae hwn yn adroddiad ardderchog. Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i gymell gwelliannau mewn gwasanaethau ac mewn sefyllfa dda i ymateb ir amgylchedd ariannol heriol, ond hefyd yn realistig ynghylch maint yr her. Nid ydym yn hunanfodlon, ac rwyf yn falch or gwaith da sydd wedi cael ei gyflawni ar draws y bwrdd.” Hefyd rhoddwyd croeso cynnes i ddatblygiad newydd cyffrous Cynllun Gofal Ychwanegol yn Nhreffynnon ac a gymeradwywyd yn y cyfarfod. Bydd y model o gefnogaeth yn seiliedig ar y model llwyddiannus iawn syn gweithredu yn Llys Eleanor yn Shotton a Llys Jasmine yn yr Wyddgrug. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones: “Bydd y cyfleuster yn darparu gwasanaethau gofal yn y cartref o ansawdd uchel a bydd y cynllun newydd hwn yn esiampl gwirioneddol ar gyfer Treffynnon a Sir y Fflint, gan ddarparu fflatiau hunangynhwysol, gan gynnwys fflatiau sydd wediu cynllunion arbennig ar gyfer pobl â dementia.” Mae hyn yn parhau â’r gwaith da y mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn ei wneud i gefnogi pobl â dementia a’u gofalwyr. Sir y Fflint oedd y cyngor cyntaf yng Ngogledd Cymru i gael dwy dref – y Fflint a Bwcle- wedi’u cydnabod gan Gymdeithas Alzheimer’s fel cymunedau sy’n gyfeillgar i ddementia. Mae gan y Sir chwe chaffi dementia eisoes - ac mae’r niferoedd yn cynyddu. Clywodd y cyfarfod sut y bydd tenantiaid y cyngor yn y naw cynllun gwresogi cymunedol ar draws y Sir yn elwa o filiau tanwydd is yn y flwyddyn sydd i ddod ac yn derbyn ad-daliad am y taliadau eleni. Bu gostyngiad yn y defnydd yn 2015/16 o’i gymharu âr flwyddyn flaenorol oherwydd, yn rhannol, bod gwelliannau effeithlonrwydd ynni wedi’u cyflawni i rai eiddo. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint: “Rwyn hynod falch ein bod yn gallu cynnig ad-daliadau i rai on tenantiaid ar eu biliau ynni, a’n bod ar draws pob un or naw cynllun gwresogi cymunedol yn gallu cynnig gostyngiad yn ein taliadau gwresogi am yr ail flwyddyn yn olynol. Maer taliadau newydd hyn yn golygu y bydd rhai on tenantiaid yn talu cyn lleied â £4.50 yr wythnos i gynhesu eu cartrefi.” Roedd yr Aelodau Cabinet yn falch o glywed fod y Cyngor wedi gwrando ar aelodau a phreswylwyr ynglyn ag adolygiad o ddarpariaeth Canolfan Ailgylchu eitemau’r Cartref yn y sir. Er mai argymhelliad Llywodraeth Cymru yw lleihau nifer y Canolfannau hyn, mae’r Cyngor yn awr yn archwilio gwasanaeth sy’n fwy lleol, gan ychwanegu dau safle mawr ychwanegol (yn ardaloedd y Fflint/Cei Connah a’r Wyddgrug/Bwcle) i ategu at y cyfleusterau ym Maes Glas a Sandycroft. Y gyfradd ailgylchu gyfartalog bresennol yn y sir yw 70% sydd gryn dipyn yn is na’r targed o 90% a gyflawnwyd gan safleoedd sy’n perfformion dda ledled Cymru. Mae hyn oherwydd y diffyg cyfleusterau a gofod ar rai or safleoedd i gynnig yr ystod lawn o gynhwysyddion ailgylchu. Cytunodd yr aelodau Cabinet ei bod yn ofynnol parhau i hysbysu ein preswylwyr o’r hyn y gellir ei ailgylchu a’r hyn na ellir ei ailgylchu, ynghyd â thynnu sylw at y gost uchel o anfon gwastraff i’w dirlenwi, yn hytrach nag ailgylchu. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwarchod y Cyhoedd a Gwastraff: “Bydd yr ateb lleol hwn yn diwallu anghenion cymunedau ac, ar yr un pryd, yn helpu gyda pherfformiad ailgylchu er mwyn cyrraedd y targedau ailgylchu.” Croesawyd y cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) diweddaraf hefyd gan fod grwp cymunedol wedi dod ymlaen i archwilio’r potensial o Drosglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon. Mae gan y grwp gynrychiolwyr o ddefnyddwyr y ganolfan, grwpiau cymunedol a busnesau lleol. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwasanaethau Hamdden: “Maer Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda grwpiau cymunedol a phobl leol i sicrhau bod trosglwyddo asedau i gymunedau lleol yn Sir y Fflint yn llwyddiannus a chynaliadwy yn y tymor hir. Maer grwp hwn wedi creu argraff arbennig arnom, gydag ystod o sefydliadau syn cymryd rhan yn cynrychiolir gymuned, defnyddwyr a staff y ganolfan, tra hefyd yn cael amrywiaeth dda o sgiliau busnes angenrheidiol i sicrhau bod Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn llwyddiant. Mae cydleoli yn golygu y bydd gan y ganolfan oriau agor hirach a gall cwsmeriaid gael mynediad at ystod ehangach o wasanaethau mewn un lle cyfleus.” Yn olaf, ond nid y lleiaf, croesawodd y cyfarfod adroddiad yn cynnig datblygu menter gymdeithasol arloesol i ddiwallu anghenion gofal plant yng Nglannau Dyfrdwy. Mae gan y dull modern a hyblyg o ofal plant y potensial i greu hyd at 14 o swyddi newydd dros y 5 mlynedd nesaf, yn ogystal â chynnig hyfforddiant newydd a chyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Rydym yn edrych ar yr hen Pepperpot Inn fel canolfan posib ar gyfer yr ymagwedd greadigol hon at ofal plant yn ardal Glannau Dyfrdwy, lle mae asesiad wedi nodi bod prinder darpariaeth gofal plant yn yr ardal. Oherwydd ei leoliad wrth ymyl y Ganolfan Hamdden, byddain cyflawni swyddogaethau cyflenwol.”