Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Drysau Agored - tu ôl ir llenni yn yr Hen Reithordy a llwybrau Pentref Penarlâg

Published: 16/08/2016

Ddydd Sadwrn 10 Medi mae Archifdy Sir y Fflint, yn seiliedig yn yr Hen Reithordy, Penarlâg, yn cymryd rhan yn ‘Drysau Agored’, digwyddiad Cymru gyfan a drefnir gan Cadw. Mae Drysau Agored yn cynnig y cyfle i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd archwilio trysorau cudd o ddiwylliant a hanes Cymru. Mae’r Hen Reithordy yn adeilad or 18fed ganrif yn ei diroedd ei hun, a oedd yn gartref i Reithoriaid Penarlâg ers canrifoedd. Am y 60 mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn gartref i Archifdy Sir y Fflint, syn ceisio diogelu treftadaeth archifol unigryw y sir a sicrhau ei bod ar gael ir cyhoedd. Bydd y digwyddiad Drysau Agored yn cynnwys arddangosfa am adeiladau hanesyddol ym Mhenarlâg (gan gynnwys yr Hen Reithordy); teithiau ‘tu ôl ir llenni’ yr Hen Reithordy i weld lle mae archifaur Sir yn cael eu cadw; ymweliadau âr stiwdio Cadwraeth i weld sut maer archifau unigryw ac na ellir eu disodli yn cael eu cadw; a theithiau cerdded o amgylch pentref Penarlâg yn dilyn llwybr adeiladau hanesyddol, dan arweiniad aelod gwybodus o staff. Dywedodd y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid; “Mae hwn yn gyfle gwych ir cyhoedd gael gwybod mwy am y prosesau, sgiliau ac arbenigedd sydd eu hangen i gadw archifau’r Sir ac i gael gwybod mwy am y drysor pensaernïol sef yr adeilad a’r gosodiad lle caiff y gwaith pwysig hwn ei wneud.” Teithiau Llwybr Pentref - 10.00am a 1.00pm - rhaid archebu Y tu ôl ir llenni a theithiau cadwraeth - 10.30am, 11.45am ac 1.00pm – rhaid archebu I archebu a rhagor o wybodaeth, cysylltwch â 01244 532364; e-bost: archives@flintshire.gov.uk neu Yr Hen Reithordy, Lôn y Rheithordy, Penarlâg, Sir y Fflint, CH5 3NR