Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


rosglwyddo Campws Dysgu yn Nhreffynnon yn Swyddogol

Published: 24/08/2016

Maer allweddi ir Campws Dysgu newydd 21ain Ganrif yn Nhreffynnon wedi cael eu trosglwyddo’n swyddogol ar ddydd Gwener, 19 Awst i berchnogion balch, Cyngor Sir y Fflint. Mae’r Contractwyr Galliford Try North West wedi bod yn gweithio gydar Awdurdod Lleol ar y prosiect am y 18 mis diwethaf ac wedi trosglwyddo’r adeilad (Cam 1) ar amser yn barod ar gyfer yr agoriad a drefnwyd i ddisgyblion. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet: “Rydym yn falch iawn gydar adeilad newydd. Maen gyfleuster gwych a bydd yn gwella’r profiad dysgu i ddisgyblion a staff. Dywedodd Jim Parker, Rheolwr Gyfarwyddwr Galliford Try North West: “Rydym yn falch iawn o allu trosglwyddo adeilad ysgol o ansawdd uchel ir disgyblion ar staff. Rydym bellach yn edrych ymlaen at weithio gydar ysgol ar Cyngor i gwblhau cam dau ir un safon uchel. Nodyn i olygyddion Yn y llun atodedig (or chwith ir dde): Graham Ford (Uwch Reolwr Prosiect – Galliford Try) Damian Hughes (Uwch Swyddog Cynllunio a Darpariaeth Ysgol - Cyngor Sir y Fflint), Jim Parker (Rheolwr Gyfarwyddwr – Galliford Try), Ian Budd (Prif Swyddog Addysg a Ieuenctid - Cyngor Sir y Fflint), Chris Bithell (Aelod Gweithredol Addysg a Ieuenctid - Cyngor Sir y Fflint), John Weir (Pennaeth Ysgol Treffynnon), Colin Everett (Prif Weithredwr - Cyngor Sir y Fflint), Natalie James-Rutledge (Rheolwr Cyllid Cyfalaf - Llywodraeth Cymru), Pete Davies (Pennaeth, Ysgol Maes y Felin).