Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau Balchder Sir y Fflint 2016

Published: 24/08/2016

Cafodd cyflawniadaur plant mewn gofal maeth yn Sir y Fflint eu dathlu mewn seremoni wobrwyo yng Nghlwb Rygbi Yr Wyddgrug fis diwethaf. Roedd dros 230 o westeion, gan gynnwys plant syn derbyn gofal a phobl ifanc sydd wedi gadael gofal, yn bresennol yn y seremoni wobrwyo ffurfiol a’r diwrnod llawn hwyl ir teulu a gynhaliwyd gan Gyngor Sir y Fflint. Agorodd yr Arglwydd Barry Jones drafodion ynghyd â Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint, Peter Curtis. Cyflwynwyd gwobrau gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Christine Jones, Prif Swyddog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Neil Ayling, yr Arglwydd a’r Arglwyddes Jones ar Cynghorydd Curtis. Dywedodd y Cynghorydd Jones: “Roedd yn ddiwrnod gwych, a fwynhawyd gan bawb oedd yn bresennol. Roedd y llawenydd ar wynebaur derbynwyr yn amlwg i bawb ei weld, fel yr oedd balchder eu gofalwyr au gwesteion. Mae pawb a gafodd wobr yn ei haeddu’n llwyr. Maer gwobrau hyn wir yn dangos pa mor dda ywr gofal ar fagwraeth a gaiff y plant hyn gan y teuluoedd syn gyfrifol amdanynt. Rwyf wrth fy modd gyda’r digwyddiad hwn – gobeithio iddo barhau am yn hir. Da iawn i bawb sy’n rhan ohono.” Roedd y gwobrau ffurfiol yn cynnwys perfformiadau cerddorol gan y plant eu hunain, a gweithgareddau hwyliog i roi diwrnod pleserus i’r plant ei ddathlu a’i gofio. Cyflwynwyd gwobrau i blant am gyflawni presenoldeb o 100% yn yr ysgol, am fod yn gapten tîm chwaraeon, cefnogi achosion elusennol, myfyriwr cyfraith y flwyddyn ac am berfformio yn yr Eisteddfod. Roedd y diwrnod hefyd yn dathlu’r plant hynny sydd bellach wedi tyfu i fyny ac sy’n byw’n llwyddiannus yn eu fflat eu hunain, gyda swydd a’u teulu eu hunain, gyda Gwobrau Cymeradwyaeth Arbennig ar gyfer y rhai syn Gadael Gofal, ac un unigolyn ifanc eithriadol yn derbyn y Wobr Phoenix i fywn annibynnol yn llwyddiannus. Helpodd busnesau lleol i wneud y digwyddiad yn llwyddiant drwy gynnig eu cefnogaeth ariannol a darparu anrhegion ar gyfer raffl. Hoffai Cyngor Sir y Fflint ddiolch i: Dave Cottle Engineering, MPH Construction, Mainetti, Clwb Pêl- droed Airbus, Clwb Rygbi Yr Wyddgrug, Westbridge Furniture, TATA Steel, Dee Gas, Vitesse Motor Company. Synthite, P&A, Bluefin, Rubicon Garden Rooms, Future Studios, cynghorwyr lleol a rhoddwyr unigol am eu cyfraniadau hael. I gael gwybod mwy am gefnogir digwyddiad hwn y flwyddyn nesaf neu i ddod yn ofalwr maeth, cysylltwch â Chyngor Sir y Fflint ar 01352 702190 neu e-bostiwch prideofflintshire@flintshire.gov.uk.