Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Safle cyn Lyfrgell Saltney

Published: 25/08/2016

Dechreuodd gwaith heddiw (24 Awst) ar welliannau i safle cyn Lyfrgell Saltney yn Salisbury Ave yn Saltney i helpu i ymateb i bryderon a fynegwyd gan y gymuned leol a’r ysgol am barcio ar y stryd a diogelwch y ffyrdd. Roedd y safle yn arfer cynnwys y Llyfrgell a maes parcio bach, mae bellach wedi ei lleoli yn y Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol. Bydd y gofod sydd ar ôl yn cael ei droi’n faes parcio i rieni sy’n gollwng a chasglu plant o’r ysgolion cynradd lleol ac i breswylwyr lleol a dylai hyn leddfur pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd yn yr ardal. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau cyn dechrau’r tymor ysgol newydd. Dywedodd Y Cyng. Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, “Dwi’n hynod o falch fod Cyngor Sir y Fflint wedi gallu gwneud defnydd da o’r ardal yma er mwyn lleddfu problemau parcio a gwella diogelwch ar y ffyrdd o fewn ac o gwmpas Salisbury Ave, yn arbennig ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol.” “Dwi’n siwr y bydd y trefniant hwn yn dod â rhyddhad i drigolion lleol ac yn darparu ateb ymarferol a chynaliadwy i broblem sydd o bryder i’r gymuned ac ysgolion lleol.” Nodyn i olygyddion Yn y llun sydd ynghlwm mae (chwith ir dde) Adam Foley, Swyddog Technegol Gwasanaethau Stryd ac Adrian Parry o’r contractwyr A Parry construction