Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dogs Trust a Chyngor Sir y Fflint yn dod ynghyd i fynd i’r afael â baw cwn

Published: 31/08/2016

Mae’n wir ein bod nin wlad syn caru cwn, ac mae dros wyth miliwn ohonynt yn y DU. Ond, gyda chymaint a hynny ohonynt, nid yw hi’n syndod bod baw cwn wedi dod ir brig mewn rhestr o gasbethaur wlad, yn fwy nag ysmygu, taflu sbwriel a llygredd. Er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r broblem, mae Dogs Trust wedi ymuno â nifer o awdurdodau lleol ledled y wlad, gan gynnwys Cyngor Sir y Fflint, i annog perchnogion cwn lleol i godi busnes eu hanifail anwes. Maer elusen wedi lansio gosodiad ym Mharc Gwepra, Cei Connah gyda geiriau o gariad ar bosteri, daliwr bagiau, stensilau llawr a sticeri ar finiau. Bwriad hyn yw annog perchnogion i godi baw eu cwn ac i’w hatgoffa y gwna unrhyw fin y tro wrth gael gwared ag o. Cyrhaeddodd y gosodiadau, un o wyth yn unig trwy’r DU, Barc Gwepra ar ôl i arolwg diweddar gan Dog’s Trust - elusen gwn fwyaf y DU – ddarganfod bod 62% o bobl wedi gweld rhywun yn peidio â chodi busnes eu ci, tra bo un rhan o dair o’r rhai a holwyd yn rhy gwrtais i ddweud wrth y troseddwr eu bod yn gwneud rhywbeth oi le. Ar ben hynny, dywedodd 50% o bobl bod dod ar draws baw ci wedi difetha eu diwrnod. Mae Dogs Trust yn gobeithio y bydd y gosodiadau yn ei gwneud hi’n haws i’r cyhoedd gyfeirio perchnogion cwn at fagiau baw am ddim, gan eu hannog i lanhau ar ôl eu ffrindiau blewog. Dywedodd Alex Jackson, Pennaeth Ymgyrchoedd yn Dogs Trust: “Baw cwn yw un or prif gwynion y mae awdurdodau lleol yn eu derbyn bob blwyddyn. Y llynedd, derbyniodd awdurdodau lleol yn y DU dros 81,000 cwyn gan y cyhoedd, a dyna pam rydym nin falch o fod yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod pawb yn gwybod pa mor hawdd yw cael gwared â baw cwn. “Mae peidio â gwneud hynnyn rhoi enw drwg i gwn eraill a’u perchnogion ac, er mai lleiafrif bach syn peidio â rhoi rhaw dan y baw, rydym yn gobeithio y bydd The Big Scoop, ymgyrch faw genedlaethol Dogs Trust, yn atgoffa pawb i helpu i gadw eu hardal leol yn ddi-faw, awgrymu i berchnogion eraill lanhau ar ôl eu cwn a chael gwared ohono mewn unrhyw fin cyhoeddus. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Sir y Fflint am helpu ymdrech Dogs Trust i wneud Sir y Fflint yn ddi-faw.” Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Mae Sir y Fflint yn falch o fod yn gweithio gyda Dogs Trust ac ymgyrch The Big Scoop. Rydym yn gweithio’n galed i ymdrin â materion amgylcheddol fel baw cwn a thaflu sbwriel, gan gynnwys cyflwyno cynllun peilot 12 mis gyda phartner allanol i’n helpu gyda gorfodir materion hyn. Rwy’n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn annog pawb sy’n berchen ar gi i godi baw eu ci a’i roi mewn unrhyw fin cyhoeddus. Fodd bynnag, mae’r cyngor a Dogs Trust yn gobeithio y bydd y neges yn aros yng nghof perchnogion cwn drwy gydol y flwyddyn gan y gallent gael dirwy am beidio â glanhau ar ôl eu cwn.”