Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


David yn esgyn i Wates

Published: 01/09/2016

Mae dyn lleol wedi cael swydd o ganlyniad i Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint. Daeth David Jones at Cymunedau yn Gyntaf yng Nghlwb Gwaith Bryn Gwalia ym mis Hydref 2014 ar ôl bod yn ddi-waith am dros 3 blynedd. Trwy hyfforddiant a chefnogaeth ESGYN, a oedd yn cynnwys mentor 1:1, cafodd David ei gyflogi ar gytundeb tymor byr ym mis Hydref 2015 yn gwneud gwaith cynhyrchu. Pan ddaeth y cytundeb hwn i ben, bu Cymunedau yn Gyntaf, drwy eu tîm ffyniant, yn helpu David i gael prawf gwaith ar safle adeiladu SERS yn y Fflint. Yn dilyn y prawf gwaith llwyddiannus, cafodd gynnig swydd fel rhan o welliant y twr o fflatiau hyd nes roedd y cytundeb wedii gwblhau. Yn ystod ei gyfnod gyda SERS, llwyddodd i fod yn weithiwr y mis. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn gwneud llawer iawn â’r rhaglen budd cymunedau yn Sir y Fflint, ac mae ganddi gysylltiadau rhagorol gyda Wates Living Space Homes (Wates) yn ogystal â busnesau eraill yn yr ardal. Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: “Mae ein staff wedi cefnogi David yn barhaus ar ei lwybr at waith ac fe gawsant wybod fod ei gytundeb gyda SERS yn dirwyn i ben. Ar ôl cysylltu â Wates, roeddent yn medru rhoi gwybod i David am swydd wag a oedd gan y cwmni, ac roedd yntaun hapus iawn iw derbyn. Dechreuodd David weithio ar y safle yn y Fflint ar 15 Awst 2016. Dywedodd: “Heb y cyfleoedd gwych mae ESGYN a Cymunedau yn Gyntaf wedi’u rhoi i mi, ni fyddai hyn wedi digwydd. Roedd cefnogaeth barhaus tra oeddwn yn gweithio yn ran allweddol o gyrraedd lle rydw i heddiw. Dywedodd Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Living Space Homes: “Yn y flwyddyn ers i ni gael ein penodi’n bartner datblygu Cyngor Sir y Fflint ar gyfer y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol, rydym wedi gweithio’n agos gydar Cyngor a rhanddeiliaid lleol, fel Cymunedau yn Gyntaf, i sicrhau bod y buddsoddiad mewn cartrefi newydd yn creu cyfleoedd i bobl leol. “Byddwn yn parhau i gynnal yr ymrwymiad yma tra byddwn yn cyflawnir rhaglen flaenllaw hon wrth i ni geisio darparu mentrau cyflogaeth a hyfforddiant pellach ar y safle ar gyfer y sir.” Cysylltwch â Nia Parry yn Cymunedau yn Gyntaf i drafod y cyfleoedd sy’n ymwneud â Budd Cymunedol 01244 846090. Or chwith: Mick Cunningham - Rheolwr safle Wates, Sharon Jones - Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Joanne Jamieson - Rheolwr Gyfarwyddwr Wates , David Jones, Clare Budden -Prif Swyddog Cymuned a Menter, Cyngh. Derek Butler - Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd