Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pobl leol yn nofio am y fedal aur

Published: 02/09/2016

Cynhaliodd Clwb Nofior Fflint ddigwyddiad ‘Hyfforddi fel Cystadleuydd Olympaidd’ yn ddiweddar gyda’r nod o gael mwy o bobl i gymryd rhan yn y gymuned leol. Roedd y digwyddiad yn rhan o ‘I Am Team GB - ymgyrch cenedlaethol sydd wedi ysbrydoli miloedd o glybiaur DU i agor eu drysau i gyfranogwyr newydd. Dywedodd Sunita Patel, prif hyfforddwr y clwb nofio: “Roeddem yn hynod o falch o groesawu cynifer o bobl i’r digwyddiad gwych hwn a bod yn rhan o ‘I Am Team GB’. Mae chwaraeon yn dod â chymunedau yn agosach at ei gilydd ac roeddem yn falch iawn yng Nghlwb Nofior Fflint o fod yn rhan o ddathliad cenedlaethol chwaraeon. Roedd cyfle i bobl weld sut yr oeddent yn edrych o dan y dwr, rhoi cynnig ar nofio bynji a rasio fel cystadleuydd yn y gemau Olympaidd! “Rydym yn edrych ymlaen at ein taith profiad Olympaidd i ganolfan ddyfrol Llundain yn y Parc Olympaidd y mis hwn. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’n nofwyr brofi ychydig o’r hyn y gall nofiwr Olympaidd ei wynebu. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwasanaethau Hamdden: “Mae’n wych fod clybiau chwaraeon lleol yn derbyn y cyfle i hyrwyddo eu camp, yn enwedig yn dilyn llwyddiant gwych ein merch leol, Jade, yn ddiweddar. Roedd hwn yn gyfle gwych i roi cynnig ar rywbeth newydd a cheisio cyflawni potensial yr holl rai syn breuddwydio am fod yn gystadleuydd Olympaidd neu Baralympaidd. Os ydych chi wedi’ch ysbrydoli ac eisiau gwybod sut i gymryd rhan, cysylltwch â Chlwb Nofio’r Fflint ar coachflintasc@hotmail.com. Llun: Plant yn mwynhau digwyddiad Hyfforddi fel Cystadleuydd Olympaidd”