Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae sefydliadau yn paratoi ar gyfer Digwyddiad Dathlu Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy

Published: 08/09/2016

Mae sefydliadau ledled Cymru a Lloegr yn paratoi ar gyfer digwyddiad ir teulu yng Nghaer, i ddathlu popeth syn gysylltiedig a’r Afon Dyfrdwy. Bydd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy GWIRIONEDDOL yn cael ei gynnal ym Mharc Cae Edgar, Handbridge, Caer, ddydd Sadwrn, 17 Medi o 11am tan 3pm. I ddathlu 10fed pen-blwydd y digwyddiad glanhau blynyddol ar hyd glannau’r Afon Dyfrdwy – Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy - bydd y digwyddiad yn cynnwys digwyddiadau a stondinau syn gysylltiedig âr afon ai chymunedau, yn y gorffennol ar presennol. Bydd grwpiau o bob rhan o Orllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru yn dod at ei gilydd i nodir achlysur. Mae digwyddiad glanhau blynyddol Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy, a drefnwyd gan Gyngor Caer a Gorllewin Swydd Gaer, Cyngor Sir y Fflint, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn addo bod yn fwy ac yn well nag erioed ar gyfer ei ben-blwydd yn 10 oed. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o fod yn rhan o ddathlu degfed pen-blwydd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy. “Bydd ‘Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn cynnig cyfle gwych i ddarganfod mwy am dreftadaeth a hanes wych yr Afon Dyfrdwy ai haber. Bydd y digwyddiad hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i sicrhau ein bod yn parhau i wneud ein gorau glas i ddiogelu amgylchedd unigryw a diddorol yr Afon Dyfrdwy. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Samantha Dixon: “Maen wych bod ein cydweithrediad trawsffiniol llwyddiannus erbyn hyn wedi arwain at dathliad mor gyffrous ar gyfer dathliad 10 mlynedd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy. “Bydd rhywbeth at ddant pawb yn Niwrnod Mawr y Ddyfrdwy ac rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar y cyfle hwn i ddarganfod mwy am y sefydliadau, busnesau, grwpiau a chymunedau lleol syn byw ger yr Afon Dyfrdwy. Mae Cyngor Caer a Gorllewin Sir Gaer wedi bod yn falch oi gysylltiad â Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy am flynyddoedd lawer. Bydd ein stondin yn Niwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn rhoi cyfle i ymwelwyr blannu pot blodau gwyllt y gallant wedyn fynd adref gyda nhw.” Dywedodd Jo Holden, Cydlynydd Dalgylch Asiantaeth yr Amgylchedd: “Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn casglu barn pobl am yr Afon Dyfrdwy yn ogystal â gofyn, Pa mor dda ydych chin adnabod eich draeniau?” a chynnig cyngor ar sut i wirio bod eich pibellau dwr gwastraff wedi’u cysylltu âr system garthffos yn hytrach nar afonydd lleol. “Gall ymwelwyr in stondin ein helpu i lunio murlun or enw Beth y mae’r Afon Dyfrdwy yn ei olygu i mi a gweithgareddau crefft eraill.” Dywedodd Carys Bebb, Swyddog yr Amgylchedd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru: “Maer Afon Dyfrdwy yn adnodd hanfodol bwysig ac rydym yn gweithion galed iw diogelu. “Maen darparu dwr yfed i filiynau o bobl, yn gynefin gwych ar gyfer bywyd gwyllt gyda eogiaid syn mudo yma i silio ac yn cefnogi diwydiant ar draws yr ardal. “Mae hefyd yn rhywle i bobl fynd a mwynhau ein hamgylchedd naturiol, felly mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn bwysig iawn er mwyn ei chadwn lân a heb sbwriel. “Yn ystod Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy bydd swyddogion CNC yn trafod atal llygredd gyda busnesau lleol ac adeiladau amaethyddol, gan amlygu sensitifrwydd yr Afon Dyfrdwy. Bydd dod i adnabod gweithredwyr lleol ar hyd yr afon Dyfrdwy ai hisafonydd yn cryfhau ymhellach ein hymateb i achosion o lygredd yn y dyfodol. “Mae hefyd yn gyfle i ni wirio bod busnesau sydd yn storio cemegolion wedi cofrestru ar gyfer y caniatâd priodol.” Er bod parcio yn gyfyngedig yn Handbridge, mae Parc Cae Edgar ond yn daith gerdded fer o ganol y ddinas. Mae gwybodaeth am barcio, amserlenni bysiau a gwasanaeth parcio a theithio traws-dinas newydd ar gael ar wefan y Cyngor: www.cheshirewestandchester.gov.uk. Nodiadau i olygyddion: Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol ers 2007. Dechreuodd y syniad gyntaf ar draeth Talacre pan benderfynodd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint a’r partneriaid BHP Billiton, Presthaven Sands, Clwb Traeth Talacre, y gymuned leol a Chyfoeth Naturiol Cymru gynnal arolwg or traeth i helpu i dynnu sylw at sbwriel morol ar niwed y gall ei achosi. Ers hynny, mae Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Cilgwri a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ogystal â llawer o wirfoddolwyr a busnesau lleol eraill - gan gynnwys Airbus, Kingspan a Kimberley Clark - hefyd wedi cymryd rhan ac maer digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth.