Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cytuno ar gyllid ar gyfer Canolfan Ailgylchu i Aelwydydd yn lleol

Published: 13/09/2016

Yn dilyn adolygiad Llywodraeth Cymru o wasanaeth Ailgylchu ar gyfer Aelwydydd y Cyngor, cyflwynwyd adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ym Mai. Roedd yr adroddiad yn argymell gostyngiad yn nifer y safleoedd presennol i dri safle wedi eu gosod yn strategol ac a oedd yn fodern ac yn addas i’r diben. O ymgynghoriad cyhoeddus a wnaed ar y pryd, ac o adborth ir adroddiad gan breswylwyr ac aelodau lleol, roedd yn eglur eu bod eisiau darpariaeth mwy lleol. Wrth ymateb, gofynnodd Cabinet y Cyngor i swyddogion edrych ar bump opsiwn o ran safle oedd yn ystyried disgwyliadau’r cymunedau ac yn ateb yr angen i’r Cyngor gwrdd â thargedau ailgylchu statudol heriol. Mae arian Cyfalaf wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r newidiadau sy’n cynnwys ailddatblygu 2 o’r safleoedd presennol yn sylweddol, sef Nercwys a Bwcle. Bydd yr ailwampio ymhob safle yn cynnwys mynedfa glir heb risiau a gwell rheolaeth ar drafnidiaeth yn ogystal â chynnydd mewn cyfleoedd ailgylchu. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwarchod y Cyhoedd a Gwastraff: Mae’r Cyngor wedi gwrando ar y cyhoedd, bydd gwelliannau safle yn rhoi gwell profiad i’r cwsmer gyda mwy o bwyslais ar ailddefnyddio ac ailgylchu a fydd yn ein helpu i gwrdd â’r targedau ailgylchu statudol sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru.” I sicrhau’r cyllid gan Lywodraeth Cymru rhaid i’r gwaith o ailddatblygu fod wedi ei gwblhau erbyn Mawrth. Bydd y cynlluniau yn dangos y newidiadau yn cael eu cyflwyno yn fuan fel rhan o gais cynllunio. Bydd yr argymhellion hefyd yn cael eu harddangos ymhob un o’r 2 safle er mwyn i’r cyhoedd eu gweld a rhoi sylwadau arnynt.