Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adnewyddu tai’r sector preifat
  		Published: 16/06/2014
Disgwylir y bydd newidiadau i bolisi’r cyngor syn delio â gwella tai yn y 
sector preifat yn cael ei gymeradwyo mewn cyfarfod o’r Cabinet ddydd Mawrth (17 
Mehefin).
Mae awdurdodau lleol yn ystyried yr holl amodau tai yn eu hardal ac maen 
ofynnol iddynt helpu cartrefi  nad  oes ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i 
gadw eu cartrefi mewn cyflwr da. 
Mae  mentrau newydd o fewn y polisi hwn a  ddiweddarwyd yn cynnwys cynnyrch 
benthyciad Effeithlonrwydd Ynni, i helpu i ddarparu  llenwi  nwy mewn cymunedau 
ar draws Sir y Fflint. Bydd ffocws rhaglen effeithlonrwydd ynnir Cyngor 
2014-15 yn  cynnwys 233 o dai cyngor yn Aston a Mostyn yn  cael  eu  cysylltu 
ir prif gyflenwad nwy ac maer Cyngor yn awyddus i ddarparu benthyciad i 
berchnogion tai preifat yn yr ardal a fyddain annog trigolion eraill i 
gysylltu.
Mae cyflwyno Cynllun Benthyciadau Gwella Eiddo gan Lywodraeth Cymru  yn 
brosiect newydd arall fyddai’n gwneud benthyciadau ar gael i berchen-feddianwyr 
a landlordiaid preifat i wneud gwelliannau hanfodol iw heiddo.
Bydd amodau newydd ar gyfer benthyciadau a roddwyd ar gyfer cartrefi gwag hefyd 
yn cael eu cynnwys yn y polisi a bydd yn golygu bod yn rhaid i berchnogion 
gydsynio ir eiddo gael ei reoli gan asiantaeth gosod tai cymdeithasol o ddewis 
y Cyngor am isafswm o ddwy flynedd ar gyfer benthyciad a phum mlynedd lle mae 
grant wedi cael ei ddarparu. 
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod y Cabinet dros Dai:  “Maer holl 
gynlluniau hyn o fewn y polisi wedi  eu dylunio  i helpu trigolion i wella eu 
hamodau byw cyn belled ag y bo modd gydar arian sydd ar gael. Maen ymwneud  
â  rhoi gwell ansawdd bywyd i bobl leol a chadw at safonau ansawdd ym mhob 
sector nid tai cyngor yn unig.”