Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Parc aur Dyffryn Maes Glas

Published: 19/09/2016

Mae parc yn Sir y Fflint wedi llwyddo i gadw Safon Aur genedlaethol am yr ail flwyddyn. Mae Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas wedi ei hachredu fel “Atyniadau i Ymwelwyr â Sicrwydd Ansawdd” o dan Gynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr Croeso Cymru. Mewn asesiad annibynnol, maer parc wedi sgorion uchel yn yr holl feysydd a gafodd eu hadolygu, gan gynnwys cyn-cyrraedd, taflenni, gwefannau, deunydd hyrwyddo, gwiriadau pris, hygyrchedd, glendid a staff. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Mae hwn yn anrhydedd mawr ar gyfer y parc ardderchog ac mewn lleoliad gwych yn Sir y Fflint i ymwelwyr i fwynhau harddwch ein cefn gwlad lleol.” Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas a Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Curtis: “Rwyn falch o fod yn Gadeirydd grwp ymroddedig iawn o bobl syn gweithion galed i sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad gorau pan fyddant yn ymweld â’r ardal hardd hon. Rwyf wrth fy modd fod Croeso Cymru wedi nodi bod y ganolfan ymwelwyr newydd yn “ddatblygiad nodedig”. Maer gwaith adnewyddu a wnaed yn ddiweddar, diolch i grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri o £1 filiwn, a sicrhawyd gan y Cyngor ar Ymddiriedolaeth, wedi sicrhau y bydd y parc yn parhau i fod yn atyniad i ymwelwyr or radd flaenaf ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”