Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu Gwobrau Dementia Fflint

Published: 23/09/2016

Cynhaliodd Grwp Llywio Cyfeillgar i Ddementia Fflint, ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint, eu Gwobrau Busnes a Dathlu Cacennau Bach yn ddiweddar yn Eglwys y Santes Fair a Dewi Sant. Noddwyd gan Wates Living Space Homes, roedd y digwyddiad yn ddathliad ar gyfer y deg busnes neu sefydliad yn y Fflint sydd wedi bod yn llwyddiannus o ran cyflawni statws Gweithio tuag at fod yn Gyfeillgar i Ddementia. Maer busnesau hyn wedi addo o leiaf 3 cham gweithredu o unrhyw un or adrannau ymrwymiad a restrir isod: Ymrwymiad 1: Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff (camau gweithredu yn cynnwys: penodi hyrwyddwr dementia ar gyfer y sefydliad, gan roi dealltwriaeth sylfaenol o ddementia i staff). Ymrwymiad 2: Adolygu amgylchedd ffisegol y siop / adeilad (camau gweithredu yn cynnwys: arwyddion clir yn y siop, mynedfeydd wediu goleuon dda). Ymrwymiad 3: Cefnogi staff syn datblygu dementia neu yn gofalu am rywun â dementia (mae camau gweithredu yn cynnwys: newid rôl y person, gan ddarparu cwnsela yn fewnol). Ymrwymiad 4: Cefnogir gymuned leol (camau gweithredu yn cynnwys: codi arian, gwirfoddoli, partneriaethau elusen). Enillwyr y Gwobrau oedd: · Llyfrgell y Fflint · Banc Barclay · Boots y fferyllfa · Cartref Gofal Bryn Edwin · Eglwys Y Santes Fair a Dewi Sant Ysgol Uwchradd y Fflint · Wates Living Space Homes · Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint · Adnoddau Dynol Cyngor Sir y Fflint · Datblygu Gweithlu Cyngor Sir y Fflint Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Rwyf wrth fy modd i fod yma heddiw – mae’r Gwobrau hyn yn helpu i godi proffil y clefyd hwn a dangos yr hyn y gall sefydliadau ei wneud i wneud bywyd yn haws i bobl â dementia au teuluoedd. Maen parhau’r gwaith gwych syn cael ei wneud ar draws y sir, er enghraifft agor caffis cof - ar hyn o bryd mae gennym 8 yn y sir a byddwn yn agor mwy. Yn ogystal â hyn, mae gennym 3 tref cyfeillgar i ddementia, fel y dynodwyd gan Gymdeithas Alzheimer. Hoffwn ddiolch i Wates Living Space am noddir digwyddiad hwn heddiw, a darparur lluniaeth - Mae’r cacennau bach yn flasus iawn!” Meddai cynghorydd tref Y Fflint a Chadeirydd y Grwp, y Parchedig Brian Harvey, Rheithor y Fflint, a gyflwynodd y gwobrau: “Maer grwp Cyfeillgar i Ddementia y Fflint wedi gweithion galed i godi ymwybyddiaeth o ddementia gyda chymorth Cymdeithas Alzheimer ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau lleol, ysgolion a grwpiau cymunedol fel y gall y dref ddod yn gymuned gyfeillgar i ddementia lle mae pobl â dementia yn cael eu deall, eu parchu, eu cefnogi ac yn hyderus y gallant gyfrannu at fywyd y dref. “Maer grwp wedi cael cefnogaeth dda gan Dîm Cynllunio a Datblygu Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Luke Pickering-Jones ar 01352 702655 neu luke.pickering-jones@flintshire.gov.uk.