Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pen-blwydd 10oed Wythnos Fusnes Sir y Fflint ar y gweill

Published: 29/09/2016

Mae digwyddiad blaenllaw Cyngor Sir Y Fflint, Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn dathlu ei 10fed pen-blwydd – wedi cael ei lansio yng Ngholeg Cambria. Cyn yr agoriad swyddogol, bu i dros 200 gyfranogwyr o ledled y sir fynychu digwyddiad brecwast Cynghrair Merswy a Dyfrdwy. Agorodd yr Arglwydd Barry Jones, Llywydd y Cynghrair Merswy a Dyfrdwy ac Wythnos Fusnes Sir y Fflint y brecwast a’r arddangosfa drwy groesawu’r holl gynrychiolwyr. Siaradodd yn frwdfrydig am y digwyddiad: “Mae’n anrhydedd mawr, fel gwladgarwr lleol, i fod yma i ddathlu llwyddiant 10 mlynedd Wythnos Fusnes Sir y Fflint – hwn yw’r digwyddiad orau o’r fath yng Nghymru, a Sir Y Fflint yw’r sir a weinyddir ac arweinir orau yng Nghymru. Mae’n rhaid i mi sôn am y Cynghorydd Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd sydd ag ysbryd anorchfygol a dyfalbarhad, a’r Prif Swyddog dros Gymuned a Menter, Clare Budden sydd yn benderfynol a chraff. “Mae’r perthnasau a chynghreiriau sydd wedi eu datblygu dros y 10 mlynedd diwethaf, a’r twf busnes newydd a’r potensial mawr i allforio yr ydym wedi ei weld yn datblygu wedi bod yn destament i’r ysbryd entrepreneuraidd sy’n gweithio’n galed yn y rhanbarth. Bydd yr ysbryd hwn yn ein rhoi mewn lle da fel mae’r Cynghrair Merwy a Dyfrdwy yn parhau i weithio gyda’n partneriaid yng Nghymru a dros y ffin yn Lloegr. Rydym yn cyfarch Vauxhall, Toyota ac Airbus, ond mae diolch i chi am ein hadferiad ‘steil phoenix’ - y Busnesau bach a chanolig, entrepreneuriaid, ymgynghorwyr, cludwyr, gan enwi dim ond ychydig. Ar ôl mwynhau brecwast, diolch i Praxis am y nawdd, aeth y cynrychiolwyr ir neuadd arddangos ller oedd dros 60 o arddangoswyr gyda’u stondinau. Mae’r digwyddiad yn croesawu dros 800 o ymwelwyr drwy’r dydd yn rheolaidd. Hefyd, mae’r arddangosfa yn cynnal seminarau gyda phresenoldeb da, mae un a enwir yn “Menter Gymdeithasol, cwrdd â’r cefnogwr”, sy’n dod â chefnogwyr mentrau cymdeithasol ynghyd fel bod mentrau cymdeithasol yn Sir Y Fflint yn cael rhannu eu harbenigedd i’w helpu i dyfu a ffynnu er budd y rhanbarth yn gyfan gwbl. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, sydd hefyd yn Gadeirydd Cynghrair Merswy a Dyfrdwy: “Unwaith eto, mae’n bleser gweld gymaint o fusnesau lleol yn dod at ei gilydd i’r digwyddiad hwn sydd yn bartneriaeth lwyddiannus rhwng y sector gyhoeddus a’r sector breifat. Mae Cynghrair Merswy a Dyfrdwy yn unigryw – hwn yw’r unig gynghrair trawsffiniol ac mae ganddo economi dirgrynol ar draws pob sector. Rydym yn ymgyrchu am rwydwaith gwell gyda Rail Track 360 a dau gynnig twf yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaer, ac rydym yn edrych i gael mwy o gyswllt o ran cyfleoedd addysg a chyflogaeth. Dywedodd Paul Islip, Westbridge Furniture Designs a oedd yn un o noddwyr yr arddangosfa: “Mae Westbridge yn falch iawn o fod y prif noddwyr i arddangosfa Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2016, ac rydym yn falch o weld y digwyddiad yn tyfu o nerth i nerth bob blwyddyn. Byddwn yn annog holl fusnesau lleol sydd heb arddangos neu fynychu i ddod i’r digwyddiad llwyddiannus yn y dyfodol.” Mae Natalie Wood, Rheolwr Gyfarwyddwr Letterbox Recruiting yn un o’r arddangoswyr sy’n ôl am y drydedd flwyddyn. Dywedodd Natalie: “Mae gennym swyddfeydd ar draws Gogledd Cymru, ac rydym yn gweld digwyddiadau fel hyn yn ddefnyddiol iawn i rwydweithio gyda chwmnïau eraill a gwneud cysylltiadau newydd. Mae busnes yn bendant yn ffynnu, ac rydym yn awyddus iawn i wneud busnes gyda chwmnïau lleol eraill a chadw talent leol yn yr ardal.”