Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymuned yn dathlu gwelliannau i Barc Gwepra

Published: 28/09/2016

Fe fu grwpiau cymunedol, arweinwyr cymunedol a chynghorwyr lleol yn dathlu cwblhau rhaglen o welliannau a gwaith adnewyddu sylweddol mewn parc lleol yn ddiweddar. Mae Parc Gwepra wedi gweld buddsoddiad o £583,400 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri dros y pum mlynedd diwethaf sydd wedi arwain at drawsnewid y parc a’i ddychwelyd i’w ysblander blaenorol. Mae’r grant, a roddwyd i Gyngor Sir y Fflint, wedi ariannur gwaith o adfer Gerddi’r Hen Neuadd a gwella gwaith dehongli yn y parc. Mae’r parc yn gefndir i Gastell Ewloe, Cofeb Hynafol o’r 11eg ganrif, a godwyd gan y Tywysogion Cymreig yn ystod brwydrau’r Mers gydag Edward 1. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Mae’r cyllid hwn wedi bod yn allweddol i wella llwybrau cerdded a dehongli er mwyn helpu pobl leol ac ymwelwyr i archwilio stori’r parc, Gerddi’r Hen Neuadd a Chastell Ewloe. “Dwi wrth fy modd gyda’r holl ddatblygiadau a’r gwaith o adfer y gerddi. Mae hyn wedi helpu i ddod â rhan bwysig o’r ardal hanesyddol hon o Gei Connah, ardal mae llawer yn hoff iawn ohoni, yn ôl yn fyw.” Dywedodd Cadeirydd Cyfeillion Parc Gwepra, Bev Futia: “Mae hwn wedi bod yn brosiect pum mlynedd, ond in holl wirfoddolwyr mae wedi golygu llawer o chwys a dagrau! Hoffwn ddiolch i bawb, y tîm Cefn Gwlad a’n holl wirfoddolwyr – pawb sydd wedi helpu i wneud heddiw’n bosib – mae eich gwaith caled wedi dwyn ffrwyth a nawr mae gennym gyfleuster gwych a’r parc gwych yma a’r ardd.” Dywedodd y Cynghorydd Peter Curtis, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint: “Fe ges i’r pleser o agor estyniad y ganolfan ymwelwyr newydd – ‘Ystafell yr Ardd’ y llynedd a dwi’n rhyfeddu at y gwaith sydd wedi digwydd ers hynny, maer gerddin edrych yn rhagorol. “Mae Cyllid Treftadaeth y Loteri wedi galluogir tîm Cefn Gwlad yma ym Mharc Gwepra, ar holl wirfoddolwyr oedd yn rhan o hyn, i symud y parc i’r 21 ganrif a rhoi amgylchedd leol wych i’r gymuned iw defnyddio ai mwynhau. “Hoffwn ddiolch yn arbennig i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect hwn dros y blynyddoedd diwethaf, rydych wedi gwneud gwaith gwych ac yn arbennig y gwirfoddolwyr, fyddair prosiect ddim wedi ei gwblhau hebddynt. Hoffwn ystyried y digwyddiad hwn, nid fel dathliad o orffen rhywbeth, ond yn hytrach fel dathliad o ddechrau newydd.”