Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol Queensferry

Published: 17/06/2014

Disgwylir ir ystod oedran yn Ysgol Queensferry newid wrth i Gynghorwyr gymeradwyo’r cynnig terfynol mewn cyfarfod o’r Cabinet ddydd Mawrth (17 Mehefin). Ym mis Gorffennaf 2013 cyhoeddwyd cynigion i gau Ysgol Feithrin Croft yn Shotton, ac i drosglwyddo’r disgyblion i Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Ethelwold yn Shotton ac Ysgol Gynradd Queensferry ym Medi eleni, fel rhan o raglen moderneiddio ysgolion y Sir. Er mwyn trosglwyddo’r plant o Ysgol Feithrin Croft bydd yn rhaid newid ystod oedran Ysgol Gynradd Queensferry ar Ffordd Gorllewin Caer. Ni dderbyniodd Gyngor Sir y Fflint unrhyw wrthwynebiad ysgrifenedig ynghylch y cynlluniau i newid yr ystod oedran o 4-11 i 3-11 oed ym mis Medi 2014, ac felly mae gan Gabinet y Cyngor yr awdurdod i benderfynu ar y newid. Dywedodd Ian Budd, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Er bod gwrthwynebiadau i gau Ysgol Feithrin Croft, cefnogodd Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru y newidiadau arfaethedig. “Maer newid yn ceisio sicrhau dilyniant ar gyfer teuluoedd drwy gydol addysg gynradd y plentyn. Bydd gan ysgolion cynradd Queensferry a Sant Ethelwold ddarpariaeth ddilyniannol ar gyfer addysg gynnar am y tro cyntaf. “Mae manteision eraill yn cynnwys cynnydd yn rhaglen gofal plant Dechraun Deg, sy’n rhoi budd i deuluoedd cymwys yn yr ardal. Mae Dechraun Deg yn darparu gwasanaeth gofal plant o ansawdd yn rhad ac am ddim ar gyfer plant 2-3 oed, gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd ychwanegol, mynediad i Raglenni Rhianta a Datblygiad Iaith Cynnar. “Argymhellir bod staff Ysgol Feithrin Croft yn cael eu trosglwyddo ir ddwy ysgol er mwyn darparur ddarpariaeth feithrin ac maer Cyngor yn gweithion agos gyda staff a rhieni/gwarcheidwaid i’w cefnogi gyda’r newidiadau. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg: “Mae uno darpariaeth yr ysgolion yn bwysig i sicrhau addysg gynaliadwy ledled y Sir ac mae cymeradwyo’r cynlluniau ar gyfer Ysgol Gynradd Queensferry yn gam arall tuag at ddarparu hyn ar gyfer holl ddisgyblion Sir y Fflint.