Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prentisiaid yn dechrau gyda’r cyngor lleol

Published: 30/09/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu 22 o brentisiaid newydd. Bu i’r recriwtiaid newydd gwrdd â’r Prif Weithredwr Colin Everett , ac Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton, yn ystod diwrnod cynefino yn Academi Dysgu a Datblygur Cyngor yng Ngholeg Cambria, Llaneurgain. Mae cyfanswm nifer y prentisiaid yn 51 ar draws y sefydliad. Mae nifer o brentisiaid yn cael eu recriwtio bob blwyddyn i ddysgu sgiliau mewn meysydd sy’n cynnwys busnes, cyfrifyddiaeth, iechyd a gofal cymdeithasol, iechyd yr amgylchedd, priffyrdd, gwasanaethau gwastraff a chynnal a chadw tiroedd. Eleni, mae’r grwp yn cynnwys saith unigolyn ifanc a fydd yn gweithio gyda hyfforddiant yn depo Alltami, er enghraifft fel gweithwyr gweithdy a pheirianwyr golau stryd. Mae’r prentisiaid fel arfer yn mynychu’r coleg un diwrnod yr wythnos i ennill cymwysterau a gydnabyddir yn y diwydiant a chael profiad gwerthfawr o weithio i’r cyngor ac ennill cyflog. Maer Cyngor hefyd wedi cyflogi dau a fydd yn gallu parhau i gyflawni eu cymhwyster Meistr gan weithio mewn proffesiwn ar yr un pryd. Dywedodd y Cynghorydd Shotton: “Mae ein cynllun Prentis sydd wedi ennill sawl gwobr yn ddewis arall atyniadol i goleg neu brifysgol llawn amser. Mae’r ffaith bod y cynllun hwn tyfu a datblygu bob blwyddyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus, fel Cyngor, i greu cyfleoedd Prentisiaeth i bobl leol.” Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr: “Mae’n bleser gennyf groesawu prentisiaid eleni a hoffwn ddymuno pob hwyl iddynt yn eu taith i mewn i gyflogaeth. Mae llawer on prentisiaid wedi symud ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus iawn yn eu dewis broffesiwn neu grefft. Mae’r ffaith bod 96% o’r rheiny sydd ar ein cynllun yn cael cyflogaeth neu leoedd mewn addysg uwch ar ddiwedd eu prentisiaeth yn ganmoliaeth i’r rhaglen a’n partneriaeth gyda Choleg Cambria.”