Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Fforwm Landlordiaid, dydd Iau 13 Hydref 2016, 5.30pm-9pm

Published: 05/10/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi trefnu i gynnal Fforwm Landlordiaid ar Gampws Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria. Mae’r digwyddiad hwn am ddim, ac mae’n gyfle i landlordiaid ddod ynghyd, i ymgysylltu âr Cyngor ac i gyfnewid gwybodaeth. Bydd Rhentu Doeth Cymru yno i gynnig cyngor wrth i Ddeddf Tai (Cymru) gael ei chyflwyno ac ar y gofynion i gofrestru pob eiddo sy’n cael ei rentu yng Nghymru, a bod trwydded gan bawb sy’n rheoli eiddo syn cael ei rentu. Bydd cyngor yn ymwneud â budd-daliadau, safonau tai ar gyfer anheddau sengl/Tai Amlfeddiannaeth, Cynllun Bond Sir y Fflint, cyngor a grantiau ynni, cartrefi iach/pob iach a chysylltiadau defnyddiol eraill. Mae nifer gyfyngedig o sesiynau cyngor un i un ar gael rhwng 5.30 – 6.30pm. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad – Jo Seymour – 01352 703440(Joanna.C.Seymour@flintshire.gov.uk) Mark Vyse – 01352 703392 (mark.vyse@flintshire.gov.uk)