Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwella ein gwasanaethau ailgylchu a chasglu sbwriel

Published: 12/10/2016

Bydd preswylwyr Cyngor Sir Y Fflint yn manteisio yn fuan ar wasanaethau ailgylchu a chasgliadau sbwriel a fydd yn cefnogi pobl sydd yn gydwybodol yn eu harferion ailgylchu ac yn helpu’r rheiny sydd ddim yn cymryd rhan yn llawn i wneud mwy. Cynhelir Gweithdy Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd arbennig ddydd Mawrth, 11 Hydref, ar gyfer Cynghorwyr Sir i drafod yn llawn y gwelliannau arfaethedig. Yn 2011, newidiodd y Cyngor yn sylfaenol y ffordd yr oedd yn casglu gwastraff y cartref o ganlyniad i dargedau cenedlaethol llym a osodwyd gan Llywodraeth Cymru i leihau lefel o wastraff cartref rhag mynd i’r tirlenwi. Mae’r targedau wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn ac erbyn 2025, bydd rhaid i 70% o holl wastraff a gesglir gan y Cynghorau yng Nghymru gael eu hailgylchu. Gellir codi tâl o £200 i bob Cyngor am bob tunnell o wastraff sydd yn mynd dros ei darged tirlenwi, a £200 ychwanegol am bob tunnell sydd o dan y targed ailgylchu. I’w roi mewn cyd-destun, os bydd y Cyngor yn methu’r targedau hyn o 1% yn unig o gyfanswm y gwastraff y mae’n ei gasglu (85,000 tunnell), yna gallai gael ei gosbi hyd at £340,000. Mae preswylwyr Sir y Fflint wedi derbyn y sialens hon, ac mae’r targedau a osodwyd ar gyfer 2012/13 a 2015/16 (52% a 58%) wedi cael eu diwallu, ac rydym ar y ffordd i ddiwallu targed 2019/20 (64%). Fodd bynnag, mae’r targed ar gyfer 2025 (70%) yn fwy heriol, a bydd angen gwneud gwelliannau pellach i wasanaethau casglu gwastraff. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae cartrefi yn Sir y Fflint wedi cynyddu oddeutu 5000 ac mae gwasanaethau casglu gwastraff cyfredol yn nesáu at ei gapasiti. Bydd niferoedd o gartrefi yn cynyddu ymhellach dros y pum mlynedd nesaf, ac mae’r cynigion a ystyrir bellach wedi’u llunio i ddarparu atebion cynaliadwy heb gynyddu nifer o gerbydau casglu gwastraff sydd ar ein ffyrdd. Mae prydlesau’r Cyngor o’r fflyd gyfredol o gerbydau ailgylchu yn dod at ei ddiwedd, ac yn dilyn treial llwyddiannus, argymhellwyd bod y Cyngor yn archebu Cerbydau Ailgylchu newydd (RRV), gan ddefnyddio Cyfalaf Rhaglen Newid Llywodraeth Cymru, yn barod i’w gyflwyno ym mis Medi 2017. Mae RRV yn gerbydau ysgafn, yn fwy effeithlon o ran tanwydd a chydag adrannau gwahanol sydd yn caniatáu casglu mwy o ddeunyddiau ailgylchadwy, ynghyd â gwastraff bwyd, mewn un ymweliad. Drwy beidio â newid pa mor aml y gwneir y casgliadau, byddai eu cyflwyno yn helpu i gynyddu cyfaint ac ansawdd deunyddiau ailgylchadwy iw casglu, ond hefyd ar yr un pryd yn lleihau costau tanwydd a hefyd yn cynorthwyor Cyngor i leihau ei ôl troed carbon. Mae targed o 90% i holl ddeunyddiau a waredir mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref angen ei ddiwallu hefyd. Yn gynharach eleni, gan ymateb i safbwyntiau preswylwyr lleol, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor y ddarpariaeth o bum Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref lleol. Mae gwaith dylunio yn cael ei wneud i welliannau ar gyfer safleoedd ym Mwcle a’r Wyddgrug a fydd yn darparu cysondeb o ran y safon o gyfleusterau, a chyfleoedd ailgylchu a fydd yn cael eu cynnig yn Greenfield a Sandycroft. Rhagwelir y bydd y gwaith hwn, sydd hefyd yn cael ei ariannu gan Gyfalaf Rhaglen Newid Llywodraeth Cymru yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd. Mae cynlluniau i ddatblygu cyfleuster gwell i gymunedau Fflint a Chei Connah yn cael eu datblygu, ond nes bydd safle wedi ei ganfod a gwaith datblygu wedi’i gwblhau, bydd y safleoedd presennol yn parhau ar agor. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet ar gyfer Strategaeth Wastraff: “Mewn cyfnod lle mae toriadau cenedlaethol parhaus i gyllidebau yn rhoi pwysau ar wasanaethau rheng flaen hanfodol megis y gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, ni allwn fforddio cael ein cosbi am fethu â diwallu targedau ailgylchu a thirlenwi. Croesawir y cyllid un tro hwn gan Llywodraeth Cymru, ac mae’n bwysig ei fod yn cael ei wario’n ofalus ac mewn modd a fydd yn darparu buddion mwyaf arwyddocaol i’r Cyngor, cymunedau lleol a phreswylwyr. Hoffwn ddiolch yn fawr i’r preswylwyr hynny sydd yn ailgylchu rhan fwyaf neu eu gwastraff i gyd, ond mae dal llawer mwy iw wneud. Mae gennym oll ran i chwarae a bydd y gwelliannau arfaethedig hyn ir gwasanaeth yn helpu iw wneud yn haws i bawb wneud eu rhan.