Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bwrdd NEW Homes yn cymeradwyo cynllun tai newydd yn y Fflint

Published: 12/10/2016

Mae Bwrdd NEW Homes wedi rhoi sêl bendith i gynllun tai newydd gwerth £7.77m a fydd yn darparu 62 o gartrefi fforddiadwy newydd yng nghanol tref y Fflint. Mae North East Wales (NEW) Homes a Chyngor Sir y Fflint wedi datblygu dull arloesol o ariannur cynllun gan y bydd y Cyngor yn darparu benthyciad cyllid cyfalaf i NEW Homes. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Chadeirydd NEW Homes: “Rwyn falch iawn y bydd NEW Homes yn parhau i weithion agos gydar Cyngor i gyflawnir cynllun blaenllaw hwn. Bydd hyn yn gwellar cynnig tai i bobl syn byw yn y Fflint.” Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes, Wates Residential: “Nid yn unig y bydd y bartneriaeth rhwng Wates Residential, Cyngor Sir y Fflint a NEW Homes yn darparu tai newydd o ansawdd uchel er mwyn helpu i ateb y galw presennol, bydd hefyd yn rhoi hwb sylweddol i economi’r Fflint trwy fuddsoddi mewn isgontractwyr a chyflenwyr lleol, tra hefyd yn creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi i bobl leol.” Yn ychwanegol at y 62 o gartrefi fforddiadwy, bydd y cynllun hefyd yn darparu 30 o gartrefi Cyngor newydd ar y safle. Bydd y cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu gan Wates Residential a bydd y gwaith adeiladu’n dechrau’n nes ymlaen y mis hwn a disgwylir iddo gael eu cwblhau ym mis Ebrill 2018.