Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
O’r Pridd i’r Plât
Published: 15/04/2014
Mae Sir y Fflint a Pherth y Terfyn yn ymuno â nifer cynyddol o ysgolion yn y DU
sy’n cymryd rhan mewn rhaglen genedlaethol i ddysgu am darddiad bwyd.
Aeth plant o Berth y Terfyn yn Sir y Fflint o’u hystafell ddosbarth i ymweld ag
archfarchnad Tesco yn Nhreffynnon ar daith o’r Pridd i’r Plât i geisio dysgu
rhagor am y bwyd ar eu plât, a sut mae’n mynd yno. Gyda chefnogaeth Diabetes
DU, Ymddiriedolaeth Fwyd y Plant ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, ymhlith
eraill, O’r Pridd i’r Plât yw’r fenter gyntaf ym Mhrosiect Bwyta’n Hapus Tesco,
sef rhaglen addysg newydd o bwys am fwyd sy’n ceisio gwella perthynas plant â
bwyd.
Yn rhan o’r rhaglen O’r Pridd i’r Plât a gynigir i bob ysgol gynradd yn y DU,
mae cyflenwyr bwyd ar drawsy wlad yn agor eu ffermydd a’u ffatrïoedd i addysgu
plant am sut, er enghraifft, y cynhyrchir llaeth, o ble mae wyau’n dod a sut
mae letys yn tyfu. Bydd gweithwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig mewn dros
700 o siopau Tesco ledled y DU hefyd yn addysgu plant am wahanol fwydydd yn
ogystal â rhoi enghreifftiau ymarferol o bobi bara, blasu ffrwythau a llysiau
newydd a dysgu popeth am bysgod, ymhlith pethau eraill. Nod Tesco yw rhoi’r
cyfle i filiwn o blant ysgolion cynradd yn y DU fynd ar y daith ym mlwyddyn
gyntaf y prosiect er mwyn ategu eu maes llafur o ran dysgu am fwyd, ffermio a
maeth.
Yn ystod eu taith, cafodd disgyblion pedair oed o Berth y Terfyn y cyfle i
fwynhau sesiwn ddysgu ryngweithiol yn y storfeydd, wrth gownter y pysgod ac yn
y rhan sy’n gwerthu cynnyrch ffres er mwyn cael gweld pysgod, ffrwythau a
llysiau ffres dros eu hunain.
Meddai Mrs Yvonne Barker, Pennaeth Perth y Terfyn:
“Roedd yn brofiad gwerth chweil i’r staff a’r disgyblion. Roedd anghenion ein
plant wedi cael eu hystyriedyn ofalus wrth baratoi’r sesiynau ac o ran eu
cyflymder. Roedd y staff yn gyfeillgar ac roedden ni’n gallu gofyn cwestiynau
iddyn nhw. Fe wnaethon ni fwynhau’r profiad cyfan, ac roedd yn sicr yn agoriad
llygad am sut mae bwyd yn mynd o’r cae i’r troli! Mae’r ffaith ein bod wedi
gallu ymweld â’n Tesco lleol wedi bod yn hwb ac mae’n bendant wedi ategu ein
gwaith amgylcheddol ac ysgolion iach.”
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg yng Nghyngor
Sir y Fflint:
“Mae Sir y Fflint yn cefnogi menter Bwyta’n Hapus Tesco gan ei bod yn bodloni’r
anghenion o ran addysgu plant ysgolion cynradd am darddiad bwyd. Mae’n bwysig
bod plant yn cael eu haddysgu am fwyd yn gynnarer mwyn iddyn nhw allu gwneud
dewisiadau doeth a byw bywyd iachus a hapus. Rydyn ni fel Cyngor wedi ymrwymo i
gynnig prydau iachus mewn ysgolion, ac mae hon yn ffordd arall o’u hannog i
fwyta’n dda.”
Wrth lansio Prosiect Bwyta’n Hapus Tesco, mae ymchwil gan Future Foundation yn
dangos nad yw 90% o blant 7-14 oed yn bwyta eu pump y dydd. Er gwaethaf eu
honiadau eu bod yn gwybod beth yw diet iach, daeth i’r amlwg bod 52 y cant
ohonynt yn meddwl bod tatws yn cyfrif fel un o’u pump y dydd. Roedd 16 y cant
yn credu bod diod oren yn cyfrif, ac roedd 10 y cant yn meddwl bod cacen moron
a saws coch yn cyfrif.
Mae’r bwlch rhwng y cenedlaethau’n tyfu hefyd; mae’r astudiaeth yn tynnu sylw
at bryderon rhieni o Brydain am berthynas eu plant â bwyd; mae dau o bob tri
ohonyn nhw’n credu bod plant yn bwyta llawer mwy o fwyd parod na’r hyn roedden
nhw’n arfer ei fwyta, ac mae cymaint ag wyth deg y cant ohonyn nhw’n dweud bod
eu plant yn llai iachus nag oedden nhw pan oedden nhw’n blant.
Meddai Carole Barford, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Tesco Treffynnon:
“Roedd yn bleser croesawu Perth y Terfyn ar ein taith O’r Pridd i’r Plât
heddiw. Nod y teithiau hyn yw ysbrydoli plant ysgolion cynradd ledled y wlad i
ddysgu rhagor am y bwyd ar eu plât, a gallech weld bod y plant heddiw’n llawn
cyffro a brwdfrydedd. Edrychwn ymlaen at groesawu rhagor o ysgolion yr ardal i
fwynhau taith o’r fath.”
Bydd ail ran O’r Pridd i’r Plât, a gaiff ei lansio nes ymlaen eleni, yn cynnig
cyrsiau coginio i blant mewn siopau drwy gydweithio ag Ymddiriedolaeth Fwyd y
Plant.
Mae siopau a chyflenwyr Tesco yn agor eu drysau i bob ysgol gynradd yn Sir y
Fflint i fynd ar deithiau
O’r Pridd i’r Plât. Gall ysgolion chwilio am eu siop a’u cwmnïau agosaf, yn
ogystal â mynegi eu diddordeb, yn www.eathappyproject.com
Nodiadau i olygwyr
Ymrwymiad i wella perthynas plant â bwyd yw O’r Pridd i’r Plât drwy gynnig yr
amrywiaeth ganlynol o gymorth i bob ysgol gynradd yn y DU:
· Gweithwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig mewn dros 700 o siopau Tesco
ledled y DU i
addysgu plant am wahanol fwydydd a rhoi enghreifftiau ymarferol, er enghraifft
pobi bara, blasu ffrwythau a llysiau newydd, a dysgu popeth am bysgod.
· Cwmnïau bwyd ar draws y wlad i agor eu ffermydd a’u ffatrioedd i addysgu
plant am sut, er enghraifft, y cynhyrchir llaeth, o ble mae wyau’n dod a sut
mae letys yn tyfu.
· Gwefan benodol gyda chynlluniau gwersi, ryseitiau a fideos enghreifftiol ar
gyfer plant, rhieni ac athrawon.
1. Comisiynwyd adroddiad y Future Foundation, ’The Current State of Kids’
Health: The Nutrition Gap’, gan Tesco a chynhaliwyd yr ymchwil rhwng mis Awst a
mis Medi 2013.
2. Mae Tesco yn ymrwymo i ddefnyddio ei bwer er gwell wrth ymateb i rai o’r
heriau mwyaf y mae’r byd yn eu hwynebu. Mae gan Tesco dri dyhead o bwys mewn
meysydd lle gall wneud cyfraniad arwyddocaol a chynnig rhywbeth o werth i
gymdeithas yn gyffredinol: creu cyfleoedd i bobl ifanc; helpu ac annog
cwsmeriaid a chydweithwyr i fyw bywydau iachach; ac arwain y ffordd o ran creu
llai o wastraff bwyd ledled y byd. Cewch wybod rhagor am y dyheadau hyn ar
wefan Tesco plc.