Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mynd i’r afael ag eiddo gwag tymor hir

Published: 17/06/2014

Gallai Cyngor Sir y Fflint ddechrau gorfodi gwerthu eiddo preifat os bydd polisi newydd yn cael ei gymeradwyo mewn cyfarfod or Cabinet ddydd Mawrth (17 Mehefin). Bydd y Polisi Gwerthu Gorfodol yn golygu y gall y Cyngor ddefnyddior ddeddfwriaeth i helpu datrys problem eiddo gwag, mewn cyflwr gwael yn y Sir ac ar yr un pryd adennill dyledion sylweddol heb eu talu. Maer cyngor yn dilyn y trywydd hwn gan mai ei nod yw lleihau nifer yr eiddo gwag tymor hir ar draws y sir o’r ffigwr bresennol o 469. Mae Cyngor Sir y Fflint bob amser wedi rhoi blaenoriaeth ir maes hwn o weithgarwch ac roedd yn un or Siroedd cyntaf yng Nghymru i gael Swyddog Datblygu Cartrefi Gwag a swm penodol o arian i gefnogi gwaith adnewyddu ac ailwampio. Bydd y Polisi Gwerthu Gorfodol yn arf ychwanegol ir rhai a ddefnyddir eisoes, fel camau gorfodi eraill i wella eiddo ac, mewn rhai achosion, cymorth ariannol uniongyrchol i berchnogion sy’n dymuno gwella eu heiddo i safon sy’n ddigon da i’w gosod. Unwaith y bydd wedi’i gymeradwyo, bydd hawl gan y Cyngor i werthu eiddo gwag tymor hir drwy arwerthiant er mwyn talu dyledion perthnasol, gan yna’i alluogi i weithio gydar perchennog newydd i sicrhau y bydd yn cael ei breswylio ynddo eto. Gallair dyledion hyn gynnwys ôl-ddyledion ar dreth y cyngor, taliadau gofal cymdeithasol ac unrhyw ddyled arall am waith a wnaed ac a ariannwyd gan y cyngor o ganlyniad i arfer ei rymoedd i atgyweirio neu wella’r eiddo. Yr unig ffordd y gallai perchennog yr eiddo atal gwerthiant fyddai ad-dalu’r ddyled. Mae nifer fechan o eiddo ar draws Sir y Fflint ar hyn o bryd, lle y byddai’n briodol i ddefnyddio’r grym hwn. Dyma eiddo lle mae pob ymyriad arall wedi methu, oherwydd diffyg cydweithrediad gan y perchnogion ac felly gwerthu gorfodol yw’r dewis olaf. Mae un eiddo yn y Sir wedi derbyn taliadau gofal cymdeithasol o fwy na £40,000, lle mae’r perchennog blaenorol a’r sawl a oedd yn derbyn gofal wedi marw erbyn hyn. Maer teulu’n amharod i werthur eiddo, gan eu bod yn dymuno byw ynddo, ond nid ydynt yn gallu fforddio’r gost i’w wneud yn addas i fyw ynddo. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod y Cabinet dros Dai: “Os bydd y polisi hwn yn cael ei gymeradwyo, gall y Cyngor ddechrau gwneud defnydd unwaith eto o fwy o eiddo gwag, gyda’r fantais ychwanegol o adennill dyledion. Nid yw bellach yn dderbyniol i eiddo aros yn wag wrth i’r angen am dai gynyddu. Gyda’r polisi hwn, gall y Cyngor ddechrau bwrw ymlaen i fynd i’r afael â phroblem cartrefi gwag ac adennill arian sy’n ddyledus iddo ar yr un pryd.”