Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Lliwgar a Llachar Ddydd a Nos 
  		Published: 14/10/2016
‘Byddwch yn ddiogel yn y tywyllwch’ yw’r neges glir gan dîm Diogelwch ar y 
Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint wrth ir gaeaf agosáu. 
Er bod rhai o ffyrdd mwyaf diogel y byd yn y DU, yn anffodus, cafodd 249 o 
gerddwyr a 138 o feicwyr eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru yn 
2014. Maen rhaid i bawb gyfranogi i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. 
Mae’r tîm yn atgoffa cerddwyr, rhedwyr, beicwyr a beicwyr modur ei bod yn 
bwysig bod modd i yrwyr eu gweld, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn.
Dyma ychydig o gyngor cyffredinol: 
· Os ydych yn gwisgo dillad tywyll, cariwch fag siopa gwyn i wella gwelededd 
neu gallech brynu bandiau braich syn fflachio ac ategolion addas eraill. 
· Gallai cario eich ffôn gyda’r sgrin wedi’i goleuo tuag at y gyrwyr sy’n 
teithio tuag atoch eu cynorthwyo i’ch gweld yn y tywyllwch, yn enwedig mewn 
ardaloedd gwledig neu ardaloedd heb lawer o olau. 
· Ar gyfer beicwyr, os ydych chi’n beicio fin nos, maen rhaid i chi osod golau 
gwyn ar y blaen a golau coch ar y cefn.  Mae’n rhaid i chi gael adlewyrchydd 
coch ar y cefn ac adlewyrchyddion oren ar y pedalau.  Bydd adlewyrchyddion 
blaen gwyn ac adlewyrchyddion ar y sbôcs yn eich helpu i gael eich gweld hefyd.
· Os ydych chi’n gyrru cerbyd, gyrrwch ar gyflymder addas a rhoi digonedd o le 
i feicwyr, a cherddwyr os nad oes llwybr troed, wrth i chi eu goddiweddyd. 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros 
yr Amgylchedd:
 “Mae gan bawb sy’n defnyddio’r ffordd gyfrifoldeb dros rannu’r lle ar y ffordd 
yn ddiogel.  Sicrhewch fod modd i ddefnyddwyr eraill ar y ffordd eich gweld, ac 
mae hyn yn hanfodol yn ystod adeg yma’r flwyddyn pan mae’r golau’n wael a gall 
gwelededd newid mewn eiliadau oherwydd y tywydd.”