Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tîm arlwyo ysgol gynradd ar restr fer gwobr genedlaethol

Published: 17/10/2016

Mae tîm arlwyo ysgol gynradd yn Sir y Fflint wedi cyrraedd rhestr fer gwobr genedlaethol Tîm y Flwyddyn. Bydd tîm arlwyo Ysgol Parc Cornist yn teithio i Fro Morgannwg yr wythnos hon i weld a ydyn nhw wedi bod yn llwyddiannus yng ngwobr Tîm Arlwyo Rheng Flaen y flwyddyn” Cymdeithas Arweiniol dros Arlwyo mewn Addysg. Nhw ywr unig dîm o ogledd Cymru i gyrraedd rhestrau byr y gwobrau. Fe gawson nhw eu henwebu gan Gillian Chapman, Arweinydd Tîm Arlwyo’r ysgol. Meddai Gillian: “Roedd yn bleser gennyf enwebu tîm arlwyo Ysgol Gynradd Parc Cornist ar gyfer y wobr hon. Maer tîm rhagorol yn cynnwys Val Williams, y Cogydd Mewn Gofal, a thri chynorthwyydd arlwyo, sef Karen Jenkins, Maggie Fellows a Lesley Berthnal. Maen nhw bob amser yn barod i fynd gam ymhellach ac ychwanegu ychydig bach o hwyl i amser cinio. Mae brwdfrydedd ac agwedd gadarnhaol Val a’r tîm yn heintus a phob dydd mae’r staff a’r plant yn canmol eu bwyd blasus. Pob lwc iddyn nhw.” Bydd y tîm yn cael ei feirniadu gyda thri thîm arall yn ôl meini prawf sy’n cynnwys brwdfrydedd, menter, creadigrwydd a safonau proffesiynol uchel. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Amgylchedd: “Maen braf clywed bod y tîm hwn o weithwyr ymroddedig wedi cyrraedd rhestr fer y wobr. Mae gwasanaeth arlwyo Ysgol Gynradd Parc Cornist wedi gwella’n aruthrol ac mae’r tîm yn glod mawr ir gwasanaeth arlwyo a ddarparwn i ysgolion ein sir. Pob lwc i chi gyd.”