Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn cyhoeddi eu partneriaeth tymor hir i gyflenwi fflyd cerbydau

Published: 20/10/2016

Yn dilyn ymarfer caffael manwl, mae Cyngor Sir Y Fflint wedi mynd i bartneriaeth 7 mlynedd gyda Essential Fleet Services i gyflenwi a chynnal pob un o’i 300 neu fwy o fflyd cerbydau. Bydd y trefniant newydd yn golygu y bydd Essential Fleet Services yn darparu cyllid, rheoli fflyd a gwasanaeth cynnal llawn ar gyfer y fflyd cerbydau cyfan y Cyngor o’r depo’r Cyngor yn Alltami yn Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Bydd y trefniant newydd yn galluogi’r Cyngor i fanteisio ar bartneriaeth gyda chyflenwr fflyd brofiadol a fydd yn dod ag arbedion costau ac effeithlonrwydd newydd i’r gwasanaeth yn ogystal â darparu fflyd cerbydau gwell a modern. Bydd yn sicrhau y bydd gennym y cerbydau cywir ar yr amser cywir i ddarparu’r gwasanaethau rheng flaen hanfodol y mae ein preswylwyr yn y Sir yn dibynnu arnynt, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’n partner newydd yn ystod y blynyddoedd nesaf.” Dywedodd Ed Hummel, Cyfarwyddwr Gwerthiant yn Essential Fleet Services: “Cyngor Sir Y Fflint yw un o’n cwsmeriaid mwyaf bellach, ac rydym yn falch iawn o gael gweithio gydag Awdurdod Lleol sydd mor flaengar. Mae’r cytundeb y bartneriaeth newydd hon o’r raddfa debyg i’n partneriaeth gyda Chyngor Sir Swydd Lincoln yr ydym wedi bod yn ei gynnal ers dros 40 mlynedd, a gobeithiwn y bydd hyn yn ddechreuad o berthynas tymor hir tebyg gyda’r tîm yn Sir Y Fflint.” Mae Essential Fleet Services yn gwmni hurio a phrydlesu contract cenedlaethol sydd wedi ffocysu ar gronfa cerbyd masnachol arbenigol, rhent a chynhaliaeth tymor byr. Maent yn gweithredu rhwydwaith mewnol o 15 gweithdy wedi eu cefnogi gan seilwaith cenedlaethol o ganolfannau gwasanaeth partner. Mae Essential Fleet Services yn cyflenwi cerbydau arbenigol i dros 40 o gynghorau yn y DU ar draws y gwasanaeth sector cyhoeddus, ac mae ganddynt ledaeniad gwasgaredig o gleientiaid sector preifat yn y sectorau cyfleustodau.