Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi penodiad Prif Weithredwr newydd

Published: 03/08/2021

Neal Cockerton (7 of 8).jpgMae Neal Cockerton wedi cael ei benodi fel Prif Swyddog Gweithredol newydd Sir y Fflint. 

Bydd aelod uchel ei barch o dîm prif swyddog presennol Sir y Fflint, Neal, yn ymgymryd â’i rôl newydd ar 1 Tachwedd 2021. 

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi penodiad Neal Cockerton fel Prif Weithredwr newydd Sir y Fflint.  

“Mae Neal wedi datblygu enw da yn y maes gwasanaethau cyhoeddus.   Mae’n unigolyn gweithgar a llawn cymhelliant sy’n ymrwymo i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i drigolion Sir y Fflint.  Mae gennyf hyder yng ngallu, cymhelliant a gweledigaeth Neal ac rwy’n siwr y bydd yn parhau i ddatblygu gwaith Cyngor Sir y Fflint.   Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gydag ef ar y problemau sy’n wynebu ein sir. 

“Hoffwn hefyd diolch i bob aelod o’r panel recriwtio am eu hamser a’u trylwyredd wrth iddynt benderfynu argymell penodi Neal fel Prif Weithredwr.”

Ymunodd Neal â’r Cyngor yn 2003, ac ers hynny, mae wedi gweithio mewn sawl swydd uwch o fewn y Cyngor yn ymdrin ag ystod eang o wasanaethau rheng flaen, ac am y tair blynedd diwethaf, mae wedi bod yn arwain Portffolio Tai ac Asedau’r Cyngor.  Mae ganddo hanes blaenorol cryf o arweinyddiaeth gweithredol a strategol. Fel aelod o dîm y Prif Swyddog, mae wedi chwarae rôl allweddol yn cyflwyno newidiadau cadarnhaol a moderneiddio’r sefydliad. 

Meddai Neal Cockerton:

“Mae’n bleser ac yn anrhydedd cael fy mhenodi fel Prif Weithredwr newydd Cyngor Sir y Fflint.  Mae’n Gyngor blaengar ac uchelgeisiol sydd â llawer i’w gynnig, rwy’n hynod falch o’r gwaith yr wyf eisoes wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud i gymunedau Sir y Fflint.” 

Gan weithio gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol ac ar draws Cymru, mae Neal wedi cyfrannu at lwyddiant nifer o brosiectau arloesol a chydweithredol.  Dyma rai enghreifftiau nodedig: creu ysgolion newydd megis Ysgol Treffynnon, cartrefi preswyl i bobl hyn megis Marleyfield House; darparu tai fforddiadwy a chymdeithasol newydd; datblygu strategaeth gwastraff y Cyngor a’r ganolfan brosesu gwastraff bwyd Biogen yn Llanelwy; prosiectau creadigol ac arloesol i gefnogi’r digartref a’r rheiny sy’n byw mewn tlodi; darparu adran Sir y Fflint o Lwybr Arfordir Cymru; rhesymoli asedau eiddo’r Cyngor gan gynnwys dymchwel Neuadd y Sir ac ail-leoli gwasanaethau i Dy Dewi Sant, Ewlo.  

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers:   

“Mae ymrwymiad a chymhelliant Neal, ynghyd â’i wybodaeth a’i brofiad, wedi derbyn cydnabyddiaeth drwy ei benodiad fel Prif Weithredwr newydd Cyngor Sir y Fflint. 

“Dymunaf bob llwyddiant i Neal yn y rôl bwysig hon”.  

Bydd Neal yn cymryd yr awenau gan Colin Everett pan fydd yn rhoi gorau i’r swydd ddiwedd mis Hydref.  

Meddai Prif Weithredwr presennol y Cyngor, Colin Everett, sydd wedi bod yn y swydd ers amser maith:

“Ni allaf feddwl am arweinydd gwasanaethau cyhoeddus mwy ymroddedig i’m holynu. Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda Neal dros y tri mis nesaf i drosglwyddo’r gwaith cyn i mi roi’r gorau i’m rôl fel Prif Weithredwr."