Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn datblygu dyfodol pobl drwy wneud buddsoddiad mawr mewn tai

Published: 25/10/2016

Mae’r datblygwr cenedlaethol, Wates Residential, wedi rhoi hwb i yrfaoedd ceiswyr swyddi lleol fel rhan o raglen Cyngor Sir y Fflint i adeiladu 500 o gartrefi newydd sbon ledled y sir. Maer fenter hyfforddi wedi rhoi cyfle i 11 o bobl leol gymryd rhan yn rhaglen genedlaethol ‘Building Futures’ Wates, gan nodi milfed cofrestriad y cwrs hyfforddi dwys sy’n para pythefnos. Cafodd ymgeiswyr eu recriwtio drwy Raglen Esgyn Llywodraeth Cymru a reolir yn Sir y Fflint gan Gymunedau’n Gyntaf ac sy’n gweithio gyda phobl sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i gael eu cyflogi ac sydd wedi bod allan o waith am chwe mis neu fwy. Cynhelir y rhaglen hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ac mae’n cynnwys sesiynau masnach sgiliau adeiladu, gan gynnwys gwaith coed, plymio a theilsio, yn ogystal â gweithdai CV a chyfweliad gyda Wates Residential ai bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi. Derbyniodd bob ymgeisydd dystysgrif mewn seremoni wobrwyo yn Siambr Cyngor Tref y Fflint. Yn ystod y cwrs ymunodd yr ymgeiswyr â Wates hefyd ar safle hen Ysgol Custom House yng Nghei Connah ble maer datblygwr yn adeiladur cartrefi cyntaf o dan Bartneriaeth Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP). Mae darparu ‘Building Futures’ yn ffurfio rhan o rôl Wates Residential fel datblygwr arweiniol ar gyfer SHARP, a fydd yn gweld 500 o gartrefi newydd yn cael eu creu ledled Sir y Fflint dros y pum mlynedd nesaf. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Cyngor Sir y Fflint yn hwyluso mwy o brentisiaethau newydd yn y sir, yn arbennig ym maes adeiladu. Mae adeiladu mwy o dai wedi bod yn flaenoriaeth i ni dros y pedair blynedd diwethaf – gan gynyddu buddion prosiectau cyfalaf megis ein rhaglenni tai lle bydd £100m yn cael ei fuddsoddi dros y 5 mlynedd nesaf. Rydym yn gweithio gyda Wates i ddarparu’r rhaglen hon – y cynllun tai cyngor newydd cyntaf mewn cenhedlaeth.” Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, a gyflwynodd y gwobrau: “Ar ran Cyngor Sir y Fflint, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch am gymryd y cam cyntaf a chwblhau’r rhaglen hon. Rydych i gyd wedi bod yn bresennol bob dydd ac wedi cyflawnir cymwysterau. Mae angen pobl fel chi arnom ac mae llawer o gyfleoedd ar gael i chi ddatblygu’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni hyd yma. Chi yw’r arloeswyr – bydd mwy o gyrsiau fel hyn yn cael eu cynnal yn y dyfodol i bobl yn yr ardal sydd naill ai’n ddi-waith neu sy’n dymuno newid gyrfa.” Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes, Wates Residential: “Drwy SHARP, mae Cyngor Sir y Fflint yn gosod y safon ar gyfer buddsoddiad mawr mewn tai a rhan fawr o hyn yw ehangder y cyfleoedd y maen ei greu i bobl leol. “Fel partner datblygu’r cyngor rydym wedi bod yn gweithio’n agos dros y flwyddyn ddiwethaf i nodi’r ffyrdd y gallwn gael effaith bositif ar y sir ac mae darparu ‘Building Futures’ ar y cyd yn un enghraifft on hymdrechion i gyflawnir ymrwymiad hwn.” Cafodd Wates ei filfed cofrestriad yn ‘Building Futures’ drwy fenter hyfforddi Sir y Fflint ers lansior rhaglen flaenllaw yn 2005. Caiff ei achredu gan y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh). Mae ‘Building Futures’ yn rhoi cymhwyster FfCCh Lefel 1 mewn Crefftau Adeiladu a chofrestriad CSCS i ymgeiswyr i’w helpu i sicrhau hyfforddiant a phrofiad gwaith ar safleoedd adeiladu yn y dyfodol. Llun: Yr 11 ymgeisydd llwyddiannus gyda Su Pickerill, Rheolwr Buddsoddiad Cymunedol ar gyfer Grwp Wates (yn sefyll ar y dde) ac yn eistedd or chwith ir dde: Mick Cunningham – Wates, Debbie Barker – Mentor Esgyn, Nia Parry - Cymunedau yn Gyntaf, Cyngh. Derek Butler, Cyngh. Aaron Shotton a Darren Eccleston, Cyn Gyfarwyddwr Adeiladu yn Wates Residential