Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mynd i’r afael ag allgáu digidol yn Sir y Fflint

Published: 23/08/2021

Gwirfoddolwyr Digidol homepage.jpgMae Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid yn edrych ymlaen at lansio Canolbwynt Digidol newydd Sir y Fflint – sef adnodd ar-lein i helpu trigolion i ddarganfod technoleg ddigidol, a magu hyder yn eu sgiliau digidol.

Er bod lansio Canolbwynt ar-lein wedi’i anelu at bobl sydd wedi eu hallgáu’n ddigidol yn gallu ymddangos yn rhyfedd, bydd y Canolbwynt yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth ddigidol a bydd yn dangos sut gallwch chi gefnogi ffrindiau, teulu neu gymdogion, nad ydyn nhw mor gyfarwydd â thechnoleg ddigidol, i fynd ar-lein.

Os ydych yn mentro iddi am y tro cyntaf ac yn ansicr ym mhle i ddechrau neu efallai yr hoffech chi gael rhywfaint o gyngor, rydym yma i’ch cefnogi a’ch cyfeirio at y cymorth sydd ei angen arnoch.  Dyma fwy o enghreifftiau o’r hyn fydd ar gael:

• Mynd ar-lein ac aros yn ddiogel wedi hynny – gan gynnwys sut y gall technoleg gynorthwyol helpu pobl i fynd ar-lein;

• Cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau;

• Dysgu am bethau sydd o ddiddordeb i chi;

• Rheoli eich arian; 

• Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif neu newyddlenni’r Cyngor dros e-bost

Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn hanfodol i lwyddiant Canolbwynt Digidol Sir y Fflint.  Rydym wedi gweithio gyda sefydliadau lleol megis Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint, Theatr Clwyd, Llyfrgelloedd Aura, Dewis Cymru a Chymunedau Digidol Cymru.  Gyda’n gilydd, rydym wedi dod â thoreth o wybodaeth at ei gilydd i un man i’ch cyfeirio’n uniongyrchol at ba le bynnag yr hoffech chi fynd.  

Mae Sir y Fflint yn hynod o ffodus fod gennym sefydliadau cymunedol gwych sy’n cydnabod mor bwysig yw chwalu’r rhwystrau digidol sy’n wynebu ein trigolion.   

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint:

“Hoffen ni i bawb gael blas ar bwer y byd digidol – i wella potensial a thwf y Sir a thrawsnewid y ffordd rydyn ni’n darparu gwasanaethau ac, yn y man, atal arwahanrwydd cymdeithasol.  Un rhan bwysig o’r Canolbwynt yw canfod ym mhle y gallwch chi gael cymorth am iechyd a lles ar-lein.  

“Ceir gwybodaeth am sut y gallwch fenthyg dyfeisiau fel gliniaduron a thabledi yn rhad ac am ddim a sut y gallwch gael cysylltiad â’r we er mwyn i chi roi cynnig arni.  Mae COVID-19 wedi amlygu’r angen i gau’r gagendor digidol.  Mae wedi dangos mor bwysig yw sicrhau bod gan ein trigolion a’n busnesau yr hyder, yr offer a’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i fanteisio ar adnoddau ar-lein, ar sail eu hanghenion.”

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Dewi Smith o Gymunedau Digidol Cymru: 

“Mae’r Canolbwynt yn enghraifft ardderchog o sefydliadau cefnogol yn gweithio gyda’i gilydd i ddiwallu anghenion y gymuned.  Bydd y safle hwn yn fuddiol iawn i drigolion Sir y Fflint sydd angen cymorth i gael eu cynnwys yn ddigidol ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn pori drwy’r adnoddau niferus sydd ar gael, ac yn eu defnyddio.     

Byddwn yn parhau i ddatblygu Canolbwynt Digidol Sir y Fflint – mae’n Ganolbwynt byw sy’n tyfu a bydd yn cael ei gadw’n gyfoes ac yn berthnasol.

Dyma’r ddolen i edrych ar y Canolbwynt: Sir y Fflint Digidol

Mae cymorth ar gael i’r rhai sydd ddim ar-lein yn ein Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu ac yn eich llyfrgell leol.