Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Haf mwyaf llwyddiannus SHEP hyd yma yn ysgolion Sir y Fflint!

Published: 11/08/2021

Mae dros 160 o blant a phobl ifanc 5-12 oed wedi elwa o’r rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (SHEP) yr haf hwn! 

Mae chwe ysgol wedi cadw eu drysau ar agor am dair wythnos gyntaf gwyliau’r ysgol, diolch i staff ymroddgar sydd wedi cydlynu rhaglen gynhwysfawr gydlynedig o weithgareddau i’r plant.

Mae Ysgol Treffynnon ac Ysgol Gynradd Queensferry, Glannau Dyfrdwy wedi cyflwyno rhaglenni yn llwyddiannus yn y gorffennol ac mae Ysgol Maesglas, Ysgol Maesglas Greenfield, Bryn Garth, Penyffordd, Ysgol Bryn Gwalia, yr Wyddgrug ac Ysgol Uwchradd Cei Connah wedi cyflwyno’r haf hwn am y tro cyntaf. 

Bu i’r plant oedd yn mynychu fwynhau brecwast, byrbryd a chinio poeth iach wedi eu darparu bob dydd gan Arlwyo NEWydd.  Mae Bwyd a Hwyl SHEP yn canolbwyntio ar addysg maeth, ac yn annog plant i flasu bwydydd newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau bwyd ymarferol trwy’r rhaglen. 

Bu i Arweinydd Cyngor Sir y Fflint y Cynghorydd Ian Roberts a’r Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Claire Homard ymweld â dwy ysgol oedd yn darparu SHEP:

yn Ysgol Maes Glas

SHEP (2 of 16).jpg   

 

 
SHEP (7 of 16).jpg SHEP (8 of 16).jpg

 

ac Ysgol Uwchradd Cei Connah.  

SHEP (13 of 16).jpg       SHEP (14 of 16).jpg

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts:

“Mae SHEP wedi bod yn boblogaidd iawn yr haf hwn sy’n atgyfnerthu’r effaith gadarnhaol y gall gweithio mewn partneriaeth ei gael yn ein cymunedau. Nid yn unig bod y rhaglen wedi rhoi cyfleoedd i blant ddysgu a bod yn actif dros y gwyliau, ond mae nifer wedi gwneud ffrindiau newydd sydd mor bwysig i'w lles, yn arbennig ar ôl y 18 mis diwethaf.

“Edrychwn ymlaen at ehangu Bwyd a Hwyl SHEP i fwy o ysgolion yn Sir y Fflint yn 2022.”

Dywedodd Claire Homard:

“Mae Hamdden Aura wedi chwarae rhan allweddol i gyflwyno gweithgareddau chwaraeon strwythuredig a gemau rhyngweithiol ym mhob ysgol. Cyflwynwyd cyfanswm o 17 o gampau gwahanol gyda staff Datblygu Chwaraeon yn hyfforddi bob sesiwn. Roedd osgoi’r bêl, tenis a rygbi yn boblogaidd iawn eleni! Mae bob hyfforddwr wedi mwynhau’r sesiynau'n fawr ac yn hapus iawn gydag ymgysylltiad y plant. 

“Roedd yr amrywiaeth o weithgareddau cyfoethogi oedd ar gael i'r plant eleni yn ardderchog ac yn cynnwys gwneud lampau lafa o boteli a ailgylchwyd, dreamcatchers, cylchoedd allweddi pren a phlaciau enwau graffiti ymysg eraill. Mae plant wedi cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar, dawns a gweithdai drymio. Roedd rhywbeth i bawb a digon o gyfleoedd i’r plant roi cynnig ar rywbeth newydd!

"Hoffwn longyfarch a dweud ‘da iawn' wrth bawb oedd yn rhan o wneud y rhaglen Bwyd a Hwyl SHEP yr un mwyaf llwyddiannus erioed!” 

Nid oedd rhieni yn gallu ymuno â’u plant ar y safle i gael prydau eleni oherwydd cyfyngiadau Covid. Fodd bynnag, i annog teuluoedd i gymryd rhan yn y gweithgareddau coginio gyda’u plant yn y cartref, bu i Arlwyo NEWydd ddarparu bocsys bwyd i bob plentyn ar ddiwrnod olaf y cynllun yn cynnwys chwe cherdyn rysáit iach a blasus, ynghyd â’r holl gynhwysion.