Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clinig brechu cyflym yn y Fflint ddydd Sadwrn

Published: 11/08/2021

I helpu wrth gynnig brechlyn Covid-19 i gymaint o bobl â phosib, cynhelir clinig cyflym ar Lôn y Capel, gyferbyn â Castle Heights, y Fflint CH6 5NL ddydd Sadwrn 14 Awst rhwng 10am a 4pm.  

Gall pobl ddod i’r clinig heb apwyntiad i gael eu dos cyntaf neu ail ddos (ar ôl chwe wythnos).  Yn ogystal â hynny gall pobl ifanc holliach 16-17 oed ddod i’r clinig i gael un dos o’r brechlyn Pfizer (mae’r rhai hynny â chyflyrau iechyd eraill eisoes wedi cael cynnig y brechlyn).