Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghori ynghylch y Map Rhwydwaith Teithio Llesol newydd

Published: 20/08/2021

cycle image.jpgHoffai Cyngor Sir y Fflint ddiolch i bawb a ymatebodd gyda’u syniadau am sut i wella’r ddarpariaeth i feicwyr a cherddwyr yn Sir y Fflint.

Rydym wedi pwyso a mesur sylwadau mwy na 2,600 o bobl ynghyd â gwybodaeth berthnasol arall, ac ar sail hynny rydym wedi llunio drafft newydd o’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol.

Mae’r map newydd yn cynnwys llawer o gilomedrau ychwanegol o gymharu â’r un gwreiddiol.

Rydym yn awr yn cynnal ymgynghoriad statudol ar y map newydd gan roi’r cyfle ichi weld a ydym wedi ystyried eich sylwadau chi.

Gallwch weld yr holl wybodaeth yma: https://flintshire2.commonplace.is/cy-GB.  Mae’r dudalen yn cynnwys mapiau ar gyfer pob anheddiad ac mae modd ichi gyflwyno sylwadau. Bydd yr ymgynghoriad statudol yn para tan 1 Tachwedd 2021 ac yn ystod y cyfnod hwn bydd modd ichi adolygu’r drafft a luniwyd a gwneud sylwadau.

Pe byddai’n well gennych anfon eich sylwadau drwy e-bost, gallwch eu hanfon i active.travel@flintshire.gov.uk. Fel arall, gallwch ffonio 01352 701234 os nad oes gennych gysylltiad â’r rhyngrwyd.