Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Marleyfield House yn agor estyniad newydd 

Published: 24/08/2021

DSC_4750small.jpgMae Marleyfield House, sydd wedi gweld gwerth £8.4 miliwn o waith datblygu ac estyniad newydd, yn ailagor ei ddrysau heddiw.

Mae’r cartref gofal bellach ddwywaith yn fwy ac yn gallu cefnogi 64 o bobl hyn. Mae’r estyniad newydd wedi’i godi’n benodol i ddiwallu anghenion pobl hyn sy’n chwilio am gartref newydd gyda gofal preswyl yn ogystal â phreswylwyr sydd wedi bod yn yr ysbyty ac eisiau manteisio ar ystod o therapïau i’w helpu nhw ddychwelyd gartref ar ôl adennill annibyniaeth. 

Mae’r 32 ystafell newydd yn cynnwys gofod awyr agored preifat drwy naill ai falconi ar y llawr cyntaf neu batio ar y llawr gwaelod. Mae’r estyniad hefyd yn cynnwys ardal gymunedol y tu mewn a’r tu allan, gofod swyddfa a storfeydd. Y tu allan i’r adeilad mae’r maes parcio wedi’i wneud yn fwy ac mae gwaith tirlunio sylweddol wedi’i wneud i annog preswylwyr i ddefnyddio’r gofod tu allan i wella eu lles. Mae’r cyfleusterau cegin hefyd wedi’u hailfodelu a’u hailwampio i ddiwallu anghenion nifer yn fwy o giniawyr. 

Mae’r adeilad gwreiddiol wrthi’n cael ei ailwampio ar hyn o bryd ar gyfer y preswylwyr sy’n byw yn y rhan honno. 

Dyma enghraifft wych o ymagwedd ragweithiol yr awdurdod lleol i fynd i’r afael â’r pwysau sylweddol presennol a'r breuder yn y sector gofal ar draws y sir.

Drwy weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, mae 16 o ystafelloedd wedi’u darparu ar gyfer pobl hyn sydd angen cymorth ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn amserol a phriodol. Bydd trigolion Sir y Fflint yn cael budd o therapïau adsefydlu dwys gan dîm ar y safle i’w helpu nhw i fod mor annibynnol â phosibl ac i ddarparu asesiad realistig ac amser real o'u hanghenion hirdymor, gan geisio helpu pobl i ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain o fewn 6 wythnos. 

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a'r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Christine Jones:

“Mae’n braf gweld yr estyniad modern gwych i Marleyfield yn agor heddiw, byddwn yn llenwi’r cyfleuster fesul cam er mwyn cadw pawb yn ddiogel.  Mae hyn yn ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi arian mewn gwasanaethau hanfodol. Dw i’n falch bod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gefnogi ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn.”

Dywedodd Jayne Sankey, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio (Dwyrain) ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Mae agor lleoedd ychwanegol Marleyfield yn gam hynod gadarnhaol ac yn dangos yr ymrwymiad i asesu parhaus preswylwyr yn y lleoliad priodol ac allan o amgylchedd ysbyty.

Mae'r datblygiad newydd hwn yn galluogi timau iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol i gefnogi pobl gyda’u rhaglen adsefydlu barhaus wrth iddynt baratoi i ddychwelyd adref, ac mae'n amgylchedd hyfryd i gefnogi adferiad ac adennill annibyniaeth a nodau personol.

“Diolch i Gyngor Sir y Fflint am arwain y prosiect pwysig hwn ac am y cyfle i weithio ar y cyd er pennaf les pobl sy'n byw yn Sir y Fflint.”

 

DSC_4537small.jpg       DSC_4597small.jpg